Hanes glowyr ar gael i bawb, diolch i grant newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae hanes diddorol Ffederasiwn Glowyr De Cymru, sydd mor bwysig yn hanes y Gymru fodern, bellach yn mynd i gael eu diogelu a’u digideiddio, diolch i gyllid a ddyfarnwyd i Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd y prosiect yn ariannu'r broses o ddiogelu a digideiddio cofnodion a grëwyd gan Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a ffurfiwyd yn 1898, ac mae'r cofnodion yn cyfeirio at y cyfnod hyd at 1934, gan gynnwys y Rhyfel Mawr, Streic Gyffredinol 1926 a dirwasgiad y tridegau. Maent felly yn bwysig o safbwynt cysylltiadau diwydiannol a'r effaith ehangach ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru a'r DU.

Mae rhai o’r dogfennau yn cynnwys: 

  • tystiolaeth gan fenywod ar y gost gynyddol o fyw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
  • rheoliadau ar ryddhau glowyr o'r Fyddin
  •  manylion o drafodaethau ar lefel leol gyda golwg o ddod ag anghydfod 1926 i ben

South Wales Miners Federation records

Llun: cyfrol yn cynnwys cofnodion yn Archifau Richard Burton cyn i’r gwaith diogelu a digideiddio gychwyn

Dyfarnwyd £18,456 i Archifau Richard Burton oddi wrth Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng CyMAL: Archifau Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Cymru a'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Prydeinig.

Hyd yn hyn, nid yw wedi bod yn bosibl i bobl gael mynediad i’r cyfrolau oherwydd eu cyflwr bregus. Bydd y prosiect yn cynnwys gwaith gan gadwraethwyr arbenigol a fydd yn dadadeiladu’r cyfrolau cyn eu glanhau a’u hatgyweirio.

Wedi hynny, bydd y dogfennau ar gael ar ffurf digidol, a bydd y cyfrolau gwreiddiol ar gael i rheiny sydd am weld sut y cawsant eu ffurfio.

Meddai Elisabeth Bennett, archifydd Prifysgol Abertawe: "Yr hyn sy'n gyffrous yw'r pynciau amrywiol mae'r cofnodion yn cyfeirio atyn nhw, o effaith y rhyfel ar lowyr i brotestiadau yn erbyn defnyddio llafur gorfodol yn y Transvaal. O'r diwedd bydd y cyhoedd yn gallu gweld y dogfennau pwysig hyn."

Ychwanegodd Wayne Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Glowyr: "Mae'r cofnodion yn arwyddocaol am eu bod yn dyddio o sefydlu'r ffederasiwn. Rydym yn falch iawn y bydd diogelu’r dogfennau  yn golygu y bydd y cyhoedd yn gallu deall mwy am ein hanes ni."