Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn dychwelyd i Abertawe ar ddydd Sadwrn, 6 Mehefin 2015

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Microdonni arch-fygiau er mwyn canfod ymwrthedd i wrthfiotigau a chemeg cregyn ffosiliau yw dau o’r amryw o bynciau i’w cynnwys yng Ngwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe, sef digwyddiad sy’n ceisio herio stereoteipiau gwyddoniaeth draddodiadol a chodi proffil menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddyginiaeth (STEMM).

Bydd Bae Abertawe yn llwyfan i Gwyddoniaeth Bocs Sebon unwaith eto eleni, digwyddiad arbennig sy'n cynnwys menywod o bob cwr o Gymru sydd ar flaen y gad ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dr Yamni Nigam Soapbox Science 2014

 

Bydd y gwyddonwyr bocs sebon y tu fas i Ganolfan Chwaraeon a Dŵr 360 rhwng 12pm a 4pm ar ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, lle byddant yn dod â gwyddoniaeth yn fyw i bobl yr ardal. Bydd 16 o siaradwyr o brifysgolion Abertawe, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Llun: Dr Yamni Nigam yn traddodi yn nigwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon 2014 

 

Ymhlith y siaradwyr bydd:-

  • Yr Athro Karen Holford, peiriannwr blaenllaw a Dirprwy-Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg Prifysgol Caerdydd, yn trafod “Strwythurau wedi’u peiriannu ar gyfer anghenion y gymuned i’r dyfodol”.
  • Dr Laura Wilkinson, Prifysgol Abertawe fydd yn archwilio “Pam fod wastad gen i le i bwdin? Sut mae amrywiaeth yn effeithio ar sut rydym yn llunio ein penderfyniadau bob dydd am brydau bwyd a byrbrydau". 
  • Jessica Fletcher, Prifysgol Bangor “Burum Gwych! - Cwrw, Bara ac Iechyd Gwell”.

Meddai trefnydd y digwyddiad, Dr Geertje Van Keulen: “Mae ystod ac ansawdd y siaradwyr yn y digwyddiad eleni yn anhygoel - bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i brofi a rhyngweithio gyda gwyddonwyr benywaidd gwych fydd yn siarad am bob math o bethau -  o ynni solar, i garbon yn y pridd i falwod!.

“Roedd y digwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon cyntaf y llynedd yn gyntaf yn ffantastig, ond rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor  Dinas a Sir Abertawe sy'n cefnogi’r digwyddiad eleni, er mwyn sicrhau fod digwyddiad eleni yn well fyth."

Dysgwch fwy...

  • Darllenwch fwy am ein siaradwyr.  
  • Darllenwch flog Dr Rebecca Price-Davies am ei gyrfa ym maes gwyddoniaeth.
  • Edrychwch ar luniau o Wyddoniaeth Bocs Sebon 2014.
  • Gwyliwch glipiau fideo o Wyddoniaeth Bocs Sebon.

Cefnogwyd y digwyddiad hwn gan Brifysgol Abertawe, Impact Accelaration Account,  Wales Institute of Mathematical and Computational Sciences (WIMCS), Society of Biology, Cymdeithas Brydeinig Gwyddorau Pridd a PHYCONET .