George Osborne yn gwahodd gwyddonydd chwaraeon o Brifysgol Abertawe i Stryd Downing

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r ymchwilydd o Brifysgol Abertawe sy'n arwain y grŵp a fu'n gyfrifol am baratoi tîm ar gyfer taith heriol ar draws cap iâ yr Ynys Las er mwyn codi arian at Help for Heroes wedi cael gwahoddiad i Stryd Downing gan y Canghellor, George Osborne.

Mae'r Athro Liam Kilduff o grŵp ymchwil Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Cymhwysol (A-STEM) yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn arbenigo mewn deall a gwella perfformiad chwaraewyr ar y lefel uchaf a phroffesiynol. Mae'n un o gefnogwyr cynllun 65 Degrees North ac ymhlith y gwyddonwyr chwaraeon a fu'n paratoi'r tîm, a oedd yn cynnwys dyn trychedig (Peter Bowker) yn sgil y gwrthdaro diweddar yn Afghanistan, i ymgymryd â'r her enfawr ym mis Mai eleni.

Gwnaeth y fenter argraff mor dda ar y Canghellor y neilltuodd £100k o'r gronfa Libor i'w chefnogi a ffoniodd y tîm ar ddiwrnod 11 eu cenhadaeth i fynegi ei gefnogaeth a gofyn sut roedd y daith yn mynd.

Bu'r ymgais yn llwyddiannus, gyda Peter Bowker yn creu record byd newydd am mai ef oedd y person trychedig cyntaf i groesi Cap Iâ yr Ynys Las.

Bydd Peter Bowker a'r Tîm 65 Degrees North, ynghyd â'r Athro Kilduff, yn mynd i Stryd Downing ar 2 Medi pan gaiff Peter a'r tîm gyfle i drafod eu profiadau a'r heriau roeddent yn eu hwynebu ar yr alltaith. Bydd hefyd yn gyfle i'r tîm ddiolch yn bersonol i'r Canghellor am ei gefnogaeth a'i gyfraniad at y prosiect.

Meddai'r Athro Kilduff, "Roedd Pete Bowker yn aelod o dîm o bump a gwblhaodd y daith heb gymorth ar draws y cap iâ ar sgïau; roedd angen tynnu slediau a oedd yn pwyso hyd at 300lb ac yn cludo bwyd, dillad a chyfarpar goroesi.

"Yn ystod y daith, bu'r tîm yn brwydro'n gyson yn erbyn pellter a blinder, tymereddau mor isel â -37°c ac agendorau dwfn, heb sôn am yr eirth gwynion sy'n byw yno.

"Ein rôl yn A-STEM oedd sicrhau bod y tîm yn y cyflwr gorau posib ar gyfer yr alltaith, gan gynnig cymorth â ffitrwydd corfforol a meddyliol, gofal gyda maeth a monitro patrymau cwsg."

Bu Dr Kelly MacKintosh, Dr Melitta McNarry, Dr Steve Mellalieu a Dr Tom Love o A-STEM hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at baratoi'r tîm.

Meddai'r Athro Kilduff, "Mae'n flaenoriaeth i ni sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith ar broblemau bywyd go iawn ac mae ein gwaith gyda 65 Degrees North yn enghraifft o hynny."