Effeithiau Cyffuriau Adloniadol: Seicolegydd o Abertawe'n trafod ei ganfyddiadau yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd seicolegydd o Brifysgol Abertawe, yr Athro Andy Parrott, yn aelod o banel o arbenigwyr a fydd yn trafod cyffuriau adloniadol a'u heffaith ffisegol, gymdeithasol a meddyliol fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Cheltenham The Times eleni, a gynhelir y mis nesaf.

Prof Andy ParrottBydd yr Athro Parrott, sy'n awdurdod rhyngwladol ar seicobioleg ddynol MDMA neu 'Ecstasi', yn ymuno â Dr Chris van Tulleken, cyflwynydd rhaglen y BBC, Trust me, I'm a Doctor a chyflwynydd ar y cyd Medicine Men Go Wild ar Channel 4, a Niamh Eastwood, Cyfarwyddwr Gweithredol Release, y ganolfan genedlaethol arbenigedd ym maes cyffuriau a chyfraith cyffuriau, ar gyfer digwyddiad o'r enw The Effects of  Recreational Drugs (S112).

Bydd y panel yn trafod nifer o gwestiynau gan gynnwys 'Beth yw'r gwir ffeithiau am ddefnyddio cyffuriau adloniadol?' a Beth sy'n digwydd i'ch ymennydd a'ch corff pan fyddwch chi'n cymryd cyffur anghyfreithlon?' rhwng 4.15pm a 5.15pm  ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, yn Theatr yr Helix, Imperial Square, Chetenham.

Mae'r Athro Parrott, sy'n gweithio yn yr Adran Seicoleg yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, wedi cyhoeddi nifer o bapurau ymchwil ynghylch effeithiau niweidiol cyffuriau adloniadol, yn enwedig nicotin ac MDMA/Ecstasi, ond hefyd canabis, cocên ac eraill.

Cyhoeddodd y papur ymchwil cyntaf i ddangos nam ar y cof ymhlith defnyddwyr Ecstasi/MDMA ifanc o'u cymharu â grwpiau oedran tebyg nad oeddent yn defnyddio'r cyffur.  Wrth gynnal adolygiad cynhwysfawr, nododd sut y gall y rhai sy'n defnyddio Ecstasi/MDMA yn rheolaidd ddioddef nifer o broblemau seicobiolegol, gan gynnwys diffyg cwsg, straen, iselder ysbryd, dicter, effaith ar y gallu i ddatrys problemau, golwg a chymhwysedd y system imiwnedd.

Meddai'r Athro Parrott: "Y broblem bennaf gyda'r holl gyffuriau adloniadol yw bod pobl yn eu cymryd er mwyn buddion seicolegol tymor byr ond mae defnyddio'r rhain yn rheolaidd yn creu mwy o broblemau na buddion.  Er enghraifft, mae smygwyr sy'n gaeth i nicotin yn dioddef mwy o straen bob dydd na'r rhai nad ydynt yn smygu. Felly, mae rhoi'r gorau i smygu'n lleihau straen ac yn creu mwy o hapusrwydd.

"Mewn modd tebyg, mae pobl sy'n defnyddio Ecstasi'n rheolaidd yn sôn am lefelau uwch o iselder ysbryd na phobl nad ydynt yn ei ddefnyddio ac maen nhw'n dweud bod eu hiselder ysbryd yn llai ar ôl rhoi'r gorau i MDMA."  

Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe ymhlith Prif Gefnogwyr Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham The Times, a gynhelir o ddydd Mawrth, 2 Mehefin tan ddydd Sul, 7 Mehefin.