Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Gwahaniaethu ar sail Hil

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Gwahaniaethu ar sail Hil ar 21 Mawrth bob blwyddyn.

 Mae gwahaniaethu ar sail hil ac ethnigrwydd yn digwydd bob dydd, gan rwystro cynnydd i filiynau o bobl ar draws y byd. Mae hiliaeth ac anoddefiad yn digwydd mewn nifer o ffyrdd, o amharu ar hawliau unigolion o dan egwyddorion sylfaenol cydraddoldeb i ysgogi casineb ethnig a all arwain at achosion o hil-laddiad. Gall hyn effeithio ar hyder pobl, chwalu eu bywydau a dinistrio cymunedau. Cyhoeddwyd y diwrnod fel Diwrnod Defod y Cenhedloedd Unedig am y tro cyntaf yn 1966. http://www.un.org/en/events/racialdiscriminationday/background.shtml

Hoffem eich gwahodd i fynychu’r digwyddiad hwn a dangos eich cefnogaeth trwy wneud safiad yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil. Bydd y Brifysgol yn nodi’r diwrnod hwn ar:

Dyddiad: Dydd Iau 19 Mawrth

Amser: 12.30yp-3.00yp

Lleoliad: Ystafell Gorllewin, Tŷ Fulton

Ein prif siaradwr fydd Chantel Patel, Pennaeth Astudiaethau Rhyngbroffesiynol a fydd yn rhannu ei thaith bersonol a’i phrofiadau â’r gynulleidfa. Caiff hyn ei ddilyn gan adloniant a bwyd.

I gadarnhau eich presenoldeb, anfonwch e-bost at Cath Elms: c.l.elms@abertawe.ac.uk cyn gynted a sy bosib. Rhowch wybod i Cath os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd neu ddietegol o flaen llaw os gwelwch yn dda.