Dathlu Etifeddiaeth Gwybodaeth a Sgiliau Cynllun Mynediad at Radd Meistr (ATM) a arweinir gan Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhaglen ysgoloriaeth ôl-raddedig sgiliau uwch a arweinir gan Brifysgol Abertawe ar y cyd â sefydliadau addysg uwch (HEI) partner ar draws Cymru wedi nodi etifeddiaeth prosiect chwe blynedd yn rhedeg o 2009 i 2015.

ATM Pathways event 1Mae'r Cynllun Mynediad at Radd Meistr (ATM), a lansiwyd ym mis Mawrth 2009 gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cefnogi a helpu i arwain trawsffurfio economi Cymru tuag at economi ar sail gwybodaeth, arloesi, ymchwil a sgiliau.

Cynhaliwyd digwyddiad terfynol y prosiect, Pathways to Higher Level Skills, neithiwr (nos Fercher, 1 Gorffennaf) yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, a Dr Paul Thomas, y Meddyg Busnes, oedd prif siaradwyr y digwyddiad i ddathlu'r cynllun Cymru gyfan a arweiniwyd gan Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, gyda Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant.

Mae'r Cynllun ATM wedi derbyn £11.2 miliwn o arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru, gydag ariannu pellach yn dod o brifysgolion Cymru a'u partneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

ATM Pathways event 2Dros y chwe blynedd diwethaf mae'r Cynllun ATM wedi darparu ystod eang o gyrsiau lefel meistr a addysgir sy'n gysylltiedig â sectorau blaenoriaeth allweddol Llywodraeth Cymru drwy gynnwys lleoliadau ymchwil dros yr haf gyda chwmnïau lleol.

Rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr gradd meistr ddefnyddio'u sgiliau lefel uchel mewn lleoliadau 'bywyd go iawn' mewn sectorau busnes a diwydiant allweddol yn y Cymoedd ac yng ngogledd a gorllewin Cymru gyda chwmnïau bach, BBaChau, cwmnïau mawr, sefydliadau trydydd sector a sefydliadau sector cyhoeddus, gan wella'u cyfle o ennill cyflogaeth yn y dyfodol.

Ymhlith cyflawniadau allweddol y Cynllun ATM dros y chwe blynedd diwethaf mae:

  • Cyfanswm o 1,319 o fyfyrwyr gradd meistr wedi cyflawni'r Cynllun, gan ragori ar y targed a osodwyd, gyda dros 90% o fyfyrwyr yn ennill cymwysterau Lefel 7-8 NQF o ganlyniad i ariannu gan ATM.
  • Cyfanswm o 758 o bartneriaid busnes a chwmnïau wedi'u helpu drwy ATM.
  • Roedd 64% o'r partneriaid busnes a chwmnïau a helpwyd drwy ATM yn BBaChau, 12% o'r trydydd sector, 9% yn fusnesau/cwmnïau bach, 5% yn fusnesau mawr a 10% o'r sector cyhoeddus.
  • Roedd 27% o'r partneriaid busnes a chwmnïau a helpwyd drwy ATM yn y diwydiannau creadigol; 22% yn y sector ynni a'r amgylchedd; 18% yn sector y gwyddorau bywyd; 15% yn y sector TGCh; 10% yn y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch; 5% yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol; a 5% mewn twristiaeth.
  • Roedd mwy na 200 o'r busnesau a chwmnïau a helpwyd yng Ngwynedd, mwy na 150 yn Abertawe a mwy na 90 yng Ngheredigion.

Wrth annerch y gynulleidfa yn y digwyddiad Pathways to Higher Level Skills, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: "Mae arian yr UE yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i gefnogi sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach a busnesau i gynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu economi arloesol, cystadleuol a ffyniannus.

"Er 2007 mae prosiectau'r UE wedi creu 10,500 o fentrau a 30,700 o swyddi, ac maent wedi helpu 63,900 o bobl i gael gwaith a 196,900 i ennill cymwysterau. Bydd ariannu pellach gan yr UE, y bydd sefydliadau addysg uwch, addysg bellach a busnesau yn elwa ohono, yn helpu i adeiladu ar y llwyddiannau hyn, ac mae'n hanfodol i greu twf a swyddi."

ATM Pathways event 4Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'r Rhaglen Mynediad at Radd Meistr wedi darparu cyfleodd gyrfa gwell i fyfyrwyr ac mae wedi dod ag arbenigedd lefel uchel i bwyso ar amrywiaeth o heriau y mae cwmnïau'n eu hwynebu.

"Yr hyn sydd wedi creu argraff arnaf fwyaf yw'r nifer o gwmnïau sy'n dweud wrthyf sut mae eu profiad gyda myfyriwr gradd meistr wedi'u hannog i weithio â mwy o brifysgolion i wella'u prosesau a'u cynnyrch."

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Mynediad at Radd Meistr, ewch i http://higherskillswales.co.uk/index.php.cy?.