Dathliadau Gŵyl Ddewi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar ddydd Gwener, 27 Chwefror, cynhelir gorymdaith hwyliog ar gampws y brifysgol i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am ein diwrnod cenedlaethol.

Prifysgol Abertawe / Swansea University

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn dechrau o brif fynedfa Abaty Singleton am 12pm, bydd pibydd yn arwain y daith heibio’r cwrt o flaen y gofrestrfa academaidd, ac yn gorffen o flaen Tŷ Fulton am 12.30pm.

Wedi’r orymdaith, bydd cyfle i fwynhau cinio Gŵyl Ddewi yn ffreutur Tŷ Fulton, yn ogystal â chyfle i wrando ar Gantorion Gwalia yn perfformio’n fyw am 1pm.

Croeso cynnes i bawb, yn staff a myfyrwyr.