Cyhoeddir astudiaeth Prifysgol Abertawe ar driawd o glefydau cyffredin

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academyddion o Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cymryd rhan mewn astudiaeth fyd-eang ar y clefydau cyffredin sef asthma, ecsema a chlefyd y gwair, sy’n cael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn adnabyddus Nature heddiw.

Efallai bod y dywediad ‘daw pethau da mewn trioedd’ yn wir ar gyfer llawer o bethau – ond mae’r triawd atopig cyffredin hwn siŵr o fod yn driawd na fyddai’r mwyafrif ohonom am ei dderbyn. Mae atopedd yn cyfeirio at dueddiad teuluol i ddatblygu rhai cyflyrau alergol yn cynnwys ecsema, asthma a chlefyd y gwair. Os oes gan un neu ddau o’r rhieni ecsema, asthma neu glefyd y gwair, mae’n fwy tebygol y bydd eu plant yn datblygu un neu fwy o’r cyflyrau hyn.

Mae atopedd yn golygu bod eich corff yn cynhyrchu math arbennig o wrthgorffyn, o’r enw imiwnoglobwlin E (IgE), yn ymateb i alergenau diniwed fel paill a gwiddon llwch. Atopedd yw’r hyn sy’n cysylltu ecsema, asthma a chlefyd y gwair. Fel arfer ecsema sy’n ymddangos yn gyntaf, yn aml ar oedran ifanc iawn. Mae babanod neu blant sydd ag ecsema wedyn â pherygl uchel o ddatblygu asthma a chlefyd y gwair yn hwyrach. Mae cyffredinolrwydd y clefydau hyn yn cynyddu ac yn un o brif ffynonellau anableddau yn y byd cyfoes.

Am fod prinder gwybodaeth systemataidd am gynhyrchiad IgE, cynhaliodd academyddion arbenigol yn Abertawe (y DU),  Havard (Boston UDA), Quebec (Canada), Ontario (Canada), Denver (UDA) , Montreal (Canada) a’r Coleg Imperial (Llundain) yr astudiaeth “An Epigenome-Wide Association Study of Total Serum Immunoglobulin E Concentration”.

Roedd Dr Gwyneth Davies a’r Athro Julian Hopkin o’r Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o’r astudiaeth. Recriwtiodd Dr Gwyneth Davies dros 1600 o wirfoddolwyr annewisol ar gyfer astudiaeth PAPA (Poblogaeth Asthma Prifysgol Abertawe) o blith myfyrwyr a staff y brifysgol, y cawsant eu ffenoteipio yn ofalus yn ôl eu nodweddion corfforol a biocemegol ar gyfer nodweddion yn ymwneud ag asthma a’u genoteipio gan eu gwneuthuriad genynnol.

Ffurfiodd yr astudiaeth PAPA ran o gydweithrediad rhwng Coleg Meddygaeth Abertawe (Dr Gwyneth Davies, yr Athro Julian Hopkin) a Choleg Imperial Llundain (Miriam Moffatt, Bill Cookson) gyda grwpiau yn Harvard, Canada a Denver. Hyd y gwyddem, mae’n debyg mai hwn yw’r tro cyntaf i’r iaith Gymraeg ymddangos yn Nature!

Defnyddiodd yr astudiaeth Nature ddull biocemegol i gydnabod patrymau o genynnau wedi’u hysgogi neu eu llonyddu mewn gwrthrychau normal ac yn y rhai sydd ag alergedd neu asthma – a thrwy hynny roedd modd cydnabod cynnyrch genynnol newydd (proteinau) sy’n bwysig i’r broses alergedd. Mae’r gwaith yn agor y posibilrwydd o ddatblygu diagnosteg neu therapiwteg newydd yn seiliedig ar y "targedau" protein hyn. 

Mae gwaith pellach wedi’i gynllunio rhwng Coleg Meddygaeth Abertawe, Coleg Imperial, Llundain a Phrifysgol Coleg Dulyn gan ddefnyddio’r dulliau hyn a rhai eraill i archwilio i feinwe yr ysgyfaint yn achos asthma – a’r bwriad yw nodweddu isdeipiau o asthma yn cynnwys y ffurfiau hynny sy’n ymateb yn wael i driniaethau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae modd dod o hyd i gasgliadau’r astudiaeth “An Epigenome-Wide Association Study of Total Serum Immunoglobulin E Concentration” yma www.nature.com .