“…cyflawniad rhagorol i'w ddathlu” - Abertawe'n ennill safle ymhlith y 400 uchaf yng Nghynghrair Prifysgolion y Byd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Unwaith eto mae Prifysgol Abertawe wedi gwella ei safle ymhlith prifysgolion gorau’r byd gan ennill safle #351-400 allan o dros 1,100 o sefydliadau ledled y byd yng Nghynghrair Prifysgolion y Byd Addysg Uwch y Times 2015-16, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, Medi 30).

Mae Cynghrair Prifysgolion y Byd Addysg Uwch y Times, sydd bellach yn ei ddeuddegfed flwyddyn, yn edrych ar bum prif gonglfaen mewn addysg uwch gan gynnwys addysgu, ymchwil, dyfyniadau, incwm gan ddiwydiant, a gweledigaeth ryngwladol, a gellir dadlau mai dyma’r cynghrair mwyaf clodfawr a phellgyrhaeddol yn y byd ar gyfer prifysgolion.   

Meddai Phil Baty, golygydd Cynghrair Prifysgolion y Byd Addysg Uwch y Times :  "Mae Cynghrair Prifysgolion y Byd Addysg Uwch y Times, sydd bellach yn ei 12fed flwyddyn, yn defnyddio safonau llym a meincnodau byd-eang cadarn ar draws holl genadaethau allweddol prifysgolion ymchwil byd-eang - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a gweledigaeth ryngwladol. Mae gan fyfyrwyr a'u teuluoedd ffydd yn y canlyniadau ac mae hynny'n wir hefyd am academyddion, arweinwyr prifysgolion a llywodraethau. Mae'r ffaith bod Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd 351-400 yn y byd yn gyflawniad rhagorol i'w ddathlu."

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy-is-ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Datblygu Strategol ym Mhrifysgol Abertawe: "Bu 2015 yn flwyddyn eithriadol i Brifysgol Abertawe hyd yn hyn, ac mae’r newyddion da ychwanegol hyn heddiw fod ein safle byd-eang wedi'i gydnabod gan un o'r cyhoeddiadau mwyaf parchus ac awdurdodol ar gyfer addysg uwch yn y byd yn ategu hyn.

"Mae'r safle hwn gan Addysg Uwch y Times, ynghyd â'n safleoedd uchel cyson mewn arolygon annibynnol eraill a thablau cynghrair ar gyfer boddhad myfyrwyr, cyflogadwyedd, a rhagoriaeth ymchwil, yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe yn parhau i godi i'r entrychion. Bydd gweledigaeth ryngwladol gref y Brifysgol - trwy ei chorff myfyrwyr amrywiol a dylanwad byd-eang cydweithrediadau a phartneriaethau ymchwil ein staff ymchwil - a'n henw da cynyddol am ragoriaeth ryngwladol, yn ein galluogi i ddenu staff a myfyrwyr o'r safon uchaf."

Yn ôl Cynghrair Prifysgolion y Byd Addysg Uwch y Times, mae Abertawe hefyd ymhlith prifysgolion uchaf a gorau'r byd am ennill y safleoedd canlynol:

-          161 yn y byd am ei gweledigaeth ryngwladol

-          343 am effaith ei dyfyniadau ymchwil a'i chyfraniad i wybodaeth fyd-eang

-          360 am ei hallbynnau ymchwil a'i henw da.

Mae'r newyddion am y gwelliant pellach hwn yn ein henw rhyngwladol yn dilyn cyfres o lwyddiannau diweddar ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys:

-       Yn gynharach y mis hwn (Medi 15) cyhoeddwyd bod y Brifysgol wedi cyrraedd y  400 gorau yng Nghynghrair Prifysgolion y Byd QS® 2015/2016, gyda safle o 400 - naid o 69 lle'n uwch na 2014/2015.

-       Cyhoeddiad Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain yn gynharach y mis hwn (Medi 11) y bydd y Brifysgol yn cynnal Gŵyl Wyddoniaeth Prydain ym 2016, dathliad bywiog o wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a fydd unwaith eto'n amlygu’n rhyngwladol ymchwil Abertawe sy'n arwain yn fyd-eang.

-       Gwireddu uchelgais y Brifysgol o fod ymhlith y 30 o sefydliadau ymchwil gorau yn y DU - llwyddodd Abertawe i gyrraedd y 26ain safle (i fyny o 52ail) yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF2014),

-       Derbyn 5 seren am ragoriaeth yn asesiad ansawdd byd-eang QS Stars sydd yn ein rhoi ni ymhlith sefydliadau blaenllaw eraill y byd sydd wedi cyflawni 5 seren, megis Harvard a Rhydychen.

-       Bod yn yr 8fed safle yn y DU yn sgil canlyniad eithriadol  ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015.

-       Ennill safle 16eg yn y DU (Canllaw Prifysgolion Da 2016 y Times/Y Sunday Times) ar gyfer cynhyrchu graddedigion byd-eang sy'n gallu dod o hyd i swyddi lefel broffesiynol neu sy'n cael mynediad ar lefel graddedig ar gyfer astudiaethau pellach. 

Yn ogystal, yr wythnos diwethaf ar Fedi 21, agorodd y Brifysgol yn ffurfiol ei datblygiad gwyddoniaeth ac arloesi rhagorol Campws y Bae, a ystyrir yn un o'r prosiectau economi wybodaeth mwyaf yn y DU ac o fewn y pump gorau yn Ewrop.  

Bydd Campws y Bae yn caniatáu i’r Brifysgol ehangu ei phartneriaethau strategol rhyngwladol cynyddol sydd, ar hyn o bryd, yn cynnwys Partneriaeth Abertawe-Tecsas, Partneriaeth ag Université Joseph Fourier yn Grenoblea'r bartneriaeth a lofnodwyd yn ddiweddar ag Universiti Malaysia Pahang, sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer cydweithio rhwng diwydiant ac academyddion yn Rhanbarth Economaidd Arfordir Dwyrain Maleisia.  

"Mae'r partneriaethau strategol mawr hyn, ar y cyd â nifer o brosiectau a mentrau eraill y mae Abertawe'n ymwneud â hwy'n dod â rhai o'r meddyliau academaidd gorau at ei gilydd i gyfnewid syniadau a hwyluso ymchwil ar y cyd sy’n arwain yn fyd-eang.”  ychwanegodd yr Athro Lappin-Scott.

"Maent hefyd yn darparu cyfleoedd symudedd rhagorol i fyfyrwyr weithio neu astudio dramor, a gefnogir gan dros 100 o bartneriaethau sydd gan y Brifysgol yn fyd-eang. 

"Mae'r flwyddyn academaidd wedi cychwyn yn dda ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o lwyddiant ym 2016. Mae Prifysgol Abertawe bellach wedi cychwyn ar gyfnod newydd, sy'n addo dod â ni'n agosach o lawer at wireddu'n huchelgais o ddod yn un o Brifysgolion gorau'r byd.

Am ganlyniadau llawn Cynghrair Prifysgolion y Byd Addysg Uwch y Times 2015-16 Cliciwch yma.