'Celf yn yr Hafod – ysbryd lle’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr artist, Dan Llywelyn Hall, ac academyddion o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe yn arwain tîm o 40 cyfranogwr mewn digwyddiad o’r enw 'Celf yn yr Hafod – ysbryd lle' ddydd Llun, 16 Tachwedd mewn ymgais i adfywio oes aur anghofiedig tirwedd ddiwydiannol yn ne Cymru.

Copper logoYn rhan o 'Being Human', yr unig ŵyl yn y DU i ddathlu'r dyniaethau, cynhelir sesiwn am ddim 'Celf yn yr Hafod - ysbryd lle, rhwng 11:00am a 16:00pm yng Ngweithfeydd Copr Yr Hafod-Morfa ac mae agor i bobl o bob oedran.  Mae'n un o nifer o ddigwyddiadau am ddim sy'n cael eu cynnal ar draws y ddinas gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe, a ddewiswyd yn un o bum canolfan yr Ŵyl yn y DU.

Bydd y sesiwn, a gynhelir mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, yn canolbwyntio ar ysbryd lle a chysylltu â'r amgylchedd drwy luniadu. Gall cyfranogwyr ddisgwyl ddatblygu eu sgiliau arsylwi a'u hyder wrth luniadu a phaentio drwy ymwneud â'r diwylliant materol yng nghasgliad Amgueddfa Abertawe sy'n gysylltiedig â threftadaeth ddiwydiannol.

Ar un adeg, roedd Gweithfeydd Copr yr Hafod-Morfa a'r Graig Wen yn Abertawe yn ganolfan y fasnach copr fyd-eang.  Roeddent yn helpu i sicrhau bod Abertawe'n cynhyrchu dau draen o gopr wedi'i fwyndoddi'r byd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn y cyfnod hwnnw, gellid gweld clwstwr o hyd at 200 o simneiau yn y cwm lle sefydlwyd cymuned gyfan, gydag ysgolion, eglwysi, capeli ac isadeiledd trafnidiaeth ac roedd Abertawe'n cael ei hadnabod fel 'Copropolis'.

Fodd bynnag, wrth i weithgarwch diwydiannol yn yr ardal ddirwyn i ben, caewyd drysau'r gweithfeydd a daeth y safleoedd yn atgof yn unig o'r fasnach ryngwladol mewn copr.

A nawr, drwy Cu @ Abertawe, prosiect adfywio a arweinir gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Dinas a Sir  Abertawe a'r gymuned leol (gan gynnwys rhai sy'n cofio gweithio yn y diwydiant copr), mae'r bartneriaeth yn ailgysylltu â gorffennol y safleoedd ac yn edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair.

Dan Llewelyn Hall 2Meddai'r artist o Lundain, Dan Llywelyn Hall, sydd wedi archwilio rôl y dirwedd gyfoes mewn cymdeithas yn aml yn ei waith, "Drwy weithio'n uniongyrchol ar sail arsylwi dwys, byddwn yn tynnu lluniau o'r lleoliadau amrywiol sydd, yn amlwg, wedi cyflawni rôl allweddol yn un o gadarnleoedd diwydiannol pwysicaf Prydain.  Caiff pob cyfranogwr ei ddynodi i leoliad penodol a, thrwy greu lluniau ohono, bydd yn helpu i greu'r straeon drwy adeiladu'r cliwiau gweledol.

"Mae'n syfrdanol ein bod eisoes wedi anghofio sut roedd y lleoedd hyn yn gweithredu yn y gorffennol mor ddiweddar a bod rhaid i ni ddibynnu ar archeoleg erbyn hyn.  Mae'n bosib ein bod yn gwybod mwy am Gymru yn oes y Rhufeiniaid nag rydym yn ei wybod am y rhan anhygoel hon o'n treftadaeth.

"Mae lluniadu'n un o'r ffyrdd gorau o ddeall eich amgylchedd ac, mewn oes lle rydym yn gaeth i dynnu lluniau â'n ffonau symudol, a ydym yn edrych o ddifrif ar y lluniau hyn ac yn eu hailarchwilio? Dwi ddim, yn bendant.

"Drwy ymdrochi eich hun yn yr amgylchedd a'i luniadu, gallwch gyflawni ymdeimlad o le, wrth i'ch adweithiau deallusol ac emosiynol greu llun.  Rwy'n sicr y byddwn, gyda'n gilydd, yn creu stori ddiddorol iawn o'r lluniau hyn ac yn ysgogi cenhedlaeth sy'n gallu bod yn ddifater i ymddiddori yn eu gorffennol."

Dan Llewelyn Hall 1Meddai Huw Bowen, Athro Hanes Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr prosiect Cu @ Abertawe, "Dros flynyddoedd maith, mae tirweddau diwydiannol de Cymru wedi ysbrydoli artistiaid mewn ffyrdd gwahanol.

"Bydd y prosiect cyffrous hwn yn helpu i wneud hyn yng Nghwm Tawe Isaf, a gobeithiwn y bydd y gymuned yn ymwneud â'r dirwedd gymhleth a heriol mewn modd creadigol i gynhyrchu gwaith sy'n adlewyrchu effaith bwerus a pharhaus y diwydiant copr ar yr ardal.

"Bydd yn ychwanegu dimensiwn hollol newydd at ein rhaglen waith sydd ar y gwaith ynghylch treftadaeth copr Abertawe, a bydd yn helpu i sicrhau bod proses o adfywio diwylliannol yn cyd-fynd ag adfywio economaidd a chymdeithasol Copropolis."