Caffi Gwyddoniaeth "Maeth a’r ymennydd heneiddiol"

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe’n cynnig cyfleoedd i unrhyw un ddysgu mwy am feysydd gwyddoniaeth newydd, cyffrous ac amserol mewn ffordd anffurfiol a difyr.

 David BentonTeitl:"Maeth a’r ymennydd heneiddiol"

Siaradwr: Yr Athro David Benton, Adran Seicoleg, Prifysgol Abertawe

Dyddiad: Dydd Mercher 25ain Chwefror

Amser: 7:30yh

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe  

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb

Yn ystod sgwrs Caffi Gwyddoniaeth mis Chwefror, bydd yr Athro Benton yn trafod dementia ac yn gofyn os yw’n cael ei ystyried yn epidemig sydd ar ddod, pam nad yw’r mwyafrif yn datblygu’r broblem hon? Caiff agweddau ffordd o fyw, yn enwedig deiet, sy’n lleihau’r risg o ddatblygu dementia eu trafod. Hefyd caiff y rôl y mae polyffenolau, asidau brasterog, fitaminau a lefelau glwcos yn y gwaed yn ei chwarae ei harchwilio.

Manylion cyswllt: http://swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/

Am Gaffi Gwyddoniaeth Cymru

Bob mis, bydd arbenigwr blaengar yn ei faes yn rhoi cyflwyniad cychwynnol byr wedi’i ddilyn gan sgwrs anffurfiol, gyfeillgar. Mae modd i chi eistedd nôl, ymlacio gyda diod a gwrando ar y drafodaeth a’r ddadl neu ddod yn rhan ohonynt. Mae trefnwyr y Caffi Gwyddoniaeth wedi ymrwymo i hyrwyddo ymgysylltu’r cyhoedd â gwyddoniaeth a gwneud i wyddoniaeth fod yn atebol.

Cynhelir Caffi Gwyddoniaeth Cymru mewn lleoliadau hamddenol yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. Maent yn sesiynau anffurfiol a hygyrch a cheir mynediad iddynt yn gwbl rhad ac am ddim. Fel arfer maent yn cychwyn trwy sgwrs gan siaradwr, fel arfer gwyddonydd neu ysgrifennwr, wedyn ceir egwyl fer ac, yna, ryw awr o drafodaeth.

Mae pynciau blaenorol wedi cynnwys sylwedd tywyll, yr annwyd cyffredin, Dr Who, y Bang mawr a therapïau amgen.

Cynhaliwyd y Cafes Scientifiques cyntaf yn y DU yn Leeds yn 1998. O’r man cychwyn hwnnw, lledodd y caffis ar draws y wlad.

Ar hyn o bryd, mae rhyw 40 o gaffis yn cwrdd yn rheolaidd i wrando ar wyddonwyr neu ysgrifenwyr yn siarad am eu gwaith a’i drafod â chynulleidfaoedd amrywiol.