Academi Hywel Teifi i sefydlu canolfan Gymraeg yng Nghwm Tawe yn dilyn grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (dydd Mercher, 3 Mehefin) cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y caiff chwech o Ganolfannau Cymraeg ac Ardaloedd Dysgu newydd eu creu i hybu’r defnydd o’r iaith ledled Cymru gyda chymorth o fwy nag £1.5 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth.

Drwy Grant Buddsoddi Cyfalaf Bwrw Mlaen 2015-16, bydd Academi Hywel Teifi yn cydweithio â Chyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn sefydlu a rhedeg canolfan iaith ddeinamig ym Mhontardawe a fydd yn caniatáu i bobl fyw, dysgu a mwynhau yn Gymraeg,  gan wneud yr iaith yn rhan weledol o fywyd bob dydd. Bydd y ganolfan yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc, digwyddiadau cymunedol, yn ogystal â bod yn gartref i siop lyfrau a swyddfeydd. 

Academi Hywel Teifi Mae Academi Hywel Teifi yn sefydliad arbennig a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-athro Cymraeg y brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Y mae tair elfen i waith Academi Hywel Teifi: mae’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau a gaiff eu dysgu yn y brifysgol ac mae’n gweithio i sicrhau lle amlycach i’r iaith ym mhob agwedd o fywyd y brifysgol a rhanbarth de-orllewin Cymru. Yn ogystal, mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru wedi’u lleoli o fewn yr Academi.

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Ar hyn o bryd, nid oes Canolfan Gymraeg yng Nghwm Tawe, nac yn unman yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yr arian hwn yn caniatáu i Academi Hywel Teifi weithio mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ysgolion, mudiadau a sefydliadau sy'n gweithio yn lleol i greu sylfaen ffurfiol, gweladwy a pharhaol ar gyfer gweithgareddau Cymraeg y tu allan i gatiau’r ysgol.

“Datgelodd Cyfrifiad 2011 bod yr iaith yng nghwm Tawe yn enwedig yn colli tir fel iaith gymunedol ac felly wedi ei gynnwys fel rhan o ardal drawsffiniol ehangach a chanddo arwyddocâd ieithyddol arbennig, lle gwelir tystiolaeth o shifft ieithyddol amlwg ynghyd â gostyngiad yn nefnydd y Gymraeg gan bobl ifanc. Byddai sefydlu Canolfan Gymraeg Pontardawe felly yn gam amserol a strategol i atal dirywiad pellach i’r iaith yn yr ardal.

Cymraeg  “Rhan greiddiol o weledigaeth Academi Hywel Teifi yw cynnal a datblygu rhaglen addysgiadol gymunedol ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob oed ac er mwyn cefnogi dysgwyr.

"Bydd y ganolfan wrth galon y gwaith hwnnw ac rydym yn edrych mlaen at gydweithio gyda phartneriaid i gefnogi cymunedau Cymraeg Cwm Tawe a'r cylch, a'u pobl ifanc yn enwedig.” 

Mae’r prosiect i sefydlu canolfan Gymraeg yn ardal Pontardawe yn bartneriaeth rhwng Academi Hywel Teifi (Prifysgol Abertawe) a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddatblygu canolfan Gymraeg ar gyfer addysg a dysgu, gweithgareddau cymdeithasol a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc, digwyddiadau cymunedol, siop lyfrau a swyddfeydd. Caiff y ganolfan ei rhedeg gan y Brifysgol mewn partneriaeth â sefydliadau Cymraeg.

Bydd y prosiectau canlynol hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan grant Bwrw Mlaen:

  • Cyngor Ynys Môn i ddatblygu canolfan gyfathrebu ar gyfer pobl ifanc.
  • Cyngor Caerdydd i drawsnewid yr Hen Lyfrgell yn yr Aes yn Ganolfan Gymraeg amlbwrpas.
  • Cyngor Sir Ceredigion i ddatblygu canolfan drochi i hwyrddyfodiaid yn Nhregaron, a fyddai hefyd yn ganolfan i’r gymuned ehangach.
  • Cyngor Gwynedd i greu Canolfan Gymraeg amlbwrpas yng nghanol Bangor.
  • Coleg Ceredigion i ddatblygu canolfan amlbwrpas yn Aberteifi.

Ers mis Awst 2014, mae’r Grant Buddsoddi Cyfalaf wedi helpu i ddatblygu deng Canolfan Gymraeg newydd ledled Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi y caiff chwech o Ganolfannau Cymraeg newydd eu creu ledled Cymru gyda chymorth mwy nag £1.5m o gyllid cyfalaf. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd sydd wrth wraidd gweledigaeth Bwrw Mlaen. Bydd datblygu’r canolfannau amlbwrpas ac ardaloedd dysgu hyn yn chwarae rôl allweddol i’r perwyl hwn.

“Bydd y canolfannau hyn yn cynnig pob math o gyfleoedd i bobl o bob oedran ddefnyddio, ymarfer a mwynhau’r iaith ar lawr gwlad.  Rydym eisoes wedi gweld canolfannau cyffrous yn cael eu datblygu ledled Cymru drwy’r Grant Buddsoddi Cyfalaf, gan ddangos ein hymrwymiad i weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y chwe phrosiect rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn datblygu dros y misoedd i ddod.”

Meddai’r Cyngorydd Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’n bleser gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot gydweithio â Phrifysgol Abertawe i sicrhau canolfan yng Nghwm Tawe bydd yn cefnogi a hyrwyddo gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid i gyflwyno rhaglen strategol fywiog fydd yn cyfrannu at y gwaith o hyrwyddo'r iaith y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth a lleoliadau ffurfiol eraill.”