Abertawe i fod yn rhan o brosiect newydd gwerth £17 miliwn i ddatblygu ymchwil gwyddonol yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (dydd Mercher, 9 Medi) cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, ei bod wedi sicrhau dros £17miliwn ar gyfer denu 90 cymrawd ymchwil newydd o bob cwr o Ewrop i ddatblygu ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang yng Nghymru.

Ar ôl curo cystadleuwyr o bob rhan o Ewrop mae Llywodraeth Cymru wedi cael £7 miliwn drwy gynllun COFUND Marie Skłodowska-Curie Actions, sy’n rhan o raglen Horizon 2020 yr UE.

Bydd Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru’n darparu £10m o gyllid cyfatebol. Bydd y cymrodorion ymchwil yn gweithio gydag ymchwilwyr gorau Cymru ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor ac ym Mhrifysgol De Cymru.

Bydd y prosiect hwn yn ategu llwyddiant rhaglen Sêr Cymru, sydd werth £50 miliwn. Drwy Sêr Cymru rhoddwyd cadeiriau ymchwil ym mhrifysgolion Cymru i rai o’r doniau gwyddonol rhyngwladol gorau a chrëwyd tri rhwydwaith ymchwil cenedlaethol newydd.

Mae’r cymrodoriaethau ymchwil wedi’u hanelu at ymgeiswyr â 3-5 mlynedd o brofiad ôl-ddoethuriaeth sy’n dymuno gweithio yng Nghymru.

Dywedodd Mrs Hart: “Gwyddoniaeth yw’r sail ar gyfer arloesi a datblygu technoleg; mae’n gwbl hanfodol ar gyfer creu twf economaidd a swyddi o ansawdd. Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi mewn ymchwil, i ychwanegu at y gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Bydd y cynllun hwn yn ategu rhaglen £50m Sêr Cymru, gan gynyddu capasiti’r prosiectau ymchwil o safon fyd-eang sydd eisoes ar waith yn ein prifysgolion. Gobeithio felly y byddaf yn gallu cyhoeddi mentrau eraill erbyn diwedd y flwyddyn hon.”

Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Julie Williams: “Mae’r ffaith inni ennill y dyfarniad cyllid COFUND hwn er gwaethaf cystadleuaeth lem gan wledydd eraill Ewropeaidd yn tystio i’r ffydd sydd yn ymchwil gwyddonol Cymru. Dangosodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod ymchwil o safon wirioneddol fyd-eang yn digwydd yng Nghymru – ond mae angen rhagor o ymchwil tebyg i sicrhau mantais economaidd a chymdeithasol yn yr hirdymor. Mae ymchwil o Gymru’n magu enw da, yn bendant; mae ein gwyddonwyr yn cydweithio mwy na gweddill y DU ar brosiectau rhyngwladol. Bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod gwaith rhagorol yn gallu tyfu a chyflawni mwy byth.”

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Dylid llongyfarch Llywodraeth Cymru am ennill y wobr EU Marie Sklodowska-Curie COFUND ar gyfer Cymru. Mae’r cyllid yn creu cyfle i  Brifysgolion Cymru adeiladu ar y sylfaen ymchwil gwyddonol gwych sydd yma yn barod trwy ddenu cymrodorion ymchwil profiadol o wledydd eraill. Bydd hyn yn cryfhau’r amgylchedd dysgu ein myfyrwyr a, trwy fwy o gydweithio efo diwydiant, bydd yn dod a buddiannau mwy eang ar gyfer arloesed, menter a thwf economaidd. Dylai prifysgolion fod yn bwerdai ar gyfer yr economi modern a bydd y wobr COFUND yma yn helpu gwneud hynny’n bosib."