Yr Ŵyl Raw Opium: Ffilm Ddogfen Dilemmas of Drug Policy: Trafodaeth Panel

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r ddarlith gyhoeddus hon am ddim, ac mae'n rhan o drydedd Ŵyl Ymchwil flynyddol Prifysgol Abertawe, a gynhelir rhwng dydd Mercher, 19 Chwefror a dydd Sadwrn, 22 Chwefror.

Mae Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH) a'r Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO) yn dangos ffilm ddogfen ac yn cynnal trafodaeth ynghylch Polisi Cyffuriau Byd-eang.

Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Chwefror

Amser:

  • 4.30pm – Ffilm Ddogfen: Raw Opium: Pain, Pleasure, Profits
  • 6pm – egwyl
  • 6.30pm – Trafodaeth Panel a Sesiwn Holi ac Ateb: The Dilemmas of Drug Policy: Global to Local

Aelodau'r Panel

  • Yr Athro Julia Buxton (Cadeirydd) Uwch Swyddog Ymchwil GDPO ac Athro Gwleidyddiaeth Gymharol yn Ysgol Polisi Cyhoeddus Prifysgol Ganolog Ewrop ym Mwdapest.
  • Y Farwnes Molly Meacher – Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ddiwygio Polisi Cyffuriau (APPG).
  • Ifor Glyn – Prif Weithredwr SANDS Cymru.
  • Mike Trace – Prif WeithredwrYmddiriedolaeth Adsefydlu Carcharorion sy'n Gaeth (RAPt), Cadeirydd Grŵp Llywio'r Consortiwm Polisi Cyffuriau Rhyngwladol (IDPC) a Chyn-ddirprwy Gydlynydd Gwrthgyffuriau'r DU.
  • Yr Athro David Bewley-Taylor – Cyfarwyddwr GDPO ac Athro Cysylltiadau Rhyngwladol a Pholisi Cyhoeddus Prifysgol Abertawe.

Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Taliesin

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb ac nid oes angen cadw lle ymlaen llaw

Mae Raw Opium yn ffilm ddogfen nodwedd eang am nwyddau sydd â phŵer aruthrol i leddfu poen ac i ddinistrio bywydau. Gan adeiladu ar y nifer o faterion a nodir yn y ffilm, bydd y drafodaeth panel yn ceisio archwilio cymhlethdodau marchnad anghyfreithlon heroin a chyffuriau eraill a reolir fel maes o bryder polisi cyhoeddus.

Gan adlewyrchu ar natur ryngddisgyblaethol a chwmpas trawswladol ehangol y pwnc hwn, bydd y drafodaeth yn rhoi sylw i heriau polisïau a rhaglenni cynhyrchu, cludiant a marchnad ddefnyddwyr, gan gynnwys y rheiny mewn mannau mor bell i ffwrdd ag Affganistan ac yn agosach at adref. Wedi'i danategu gan gred y GDPO bod angen ymagwedd ar sail hawliau a thystiolaeth at greu polisi, bydd y panel yn cwestiynu strategaethau a reolir gan orfodi'r gyfraith ac yn ymgysylltu mewn dadleuon am ymagweddau sy'n canolbwyntio ar iechyd ac yn symud i ffwrdd o'r 'rhyfel cyffuriau' honedig.