Tim o Abertawe’n arloesi’r chwiliad am ddatrysiad i ddiagnosio Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Glyconics Ltd a leolir yng Nghymru a Chanolfan NanoIechyd (CNH) Prifysgol Abertawe wedi sefydlu partneriaeth i ddatblygu dyfais fechan a ddelir yn y llaw i ddiagnosio a rhagweld gwaethygu Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint mewn cleifion.

Dr Paul Lewis

Gyda chymorth tîm Abertawe, dyfarnwyd cytundeb datblygu Menter Ymchwil Busnesau Bach ar gyfer Gofal Iechyd (SBRI Gofal Iechyd) i Glyconics ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol i asesu perfformiad clinigol y ddyfais fechan is goch trawsnewid Fourier (FTIR).

Mae SBRI Gofal Iechyd yn fenter y GIG yn Lloegr, a gefnogir gan y Rhwydweithiau Gwyddor Iechyd Academaidd a ffurfiwyd yn ddiweddar, sydd â’r nod o hyrwyddo twf economaidd yn y DU wrth fynd i’r afael ag anghenion iechyd nas diwallwyd a hyrwyddo’r broses o fabwysiadu arfer gorau cydnabyddedig.

Mae Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint, neu COPD, yn glefyd cyffredin sy’n anablu’r unigolyn yn gynyddol ac mae’n faich iechyd mawr yn fyd-eang. Nid yw’r term yn cyfeirio at un clefyd yn unig - term ambarél ydyw sy’n cyfeirio at sbectrwm o glefydau cronig yr ysgyfaint sy’n achosi cyfyngiadau mewn llif awyr yn yr ysgyfaint, ac mae’n cynnwys emffysema a broncitis cronig.  

O fewn y saith mlynedd nesaf, rhagwelir mai COPD fydd y trydydd prif achos marwolaeth yn fyd-eang a’r pumed achos anabledd mwyaf cyffredin yn y byd.   

Bydd y dechnoleg, a ddatblygwyd gan Dr Paul Lewis o Ganolfan NanoIechyd (CNH) Prifysgol Abertawe, yn cael ei masnacheiddio gan Glyconics ar y cyd â Dr Lewis a fydd yn gyfrifol am gydlynu’r holl raglenni gwerthuso, datblygu a chlinigol yn ymwneud â’r dechnoleg.

Meddai Dr Berwyn Clarke, Prif Swyddog Gweithredol Glyconics Ltd: “Yn y DU, amcangyfrifir bod COPD yn effeithio ar ryw chwe miliwn o bobl a bod hynny’n arwain at golled o 24 miliwn o ddiwrnodau gwaith, â chost o bron i £4 biliwn bob blwyddyn o ganlyniad i gynhyrchiant is ac mae’n gyfrifol am dros 25,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

“Wrth i’r clefyd ddatblygu mae’r cleifion yn datblygu gwaethygiadau mwy rheolaidd a difrifol ac mae angen iddynt dreulio mwy o amser yn yr ysbyty. Yn ogystal â diagnosio COPD yn fwy cywir ar y pwynt gofal, mae’r ddyfais hon a ddelir yn y llaw hefyd yn gallu canfod gwaethygiadau’n gynnar iawn. Mae’n hollbwysig i’r GIG gan fod gwaethygiadau’n factor o bwys mawr o ran y gost £1 biliwn y flwyddyn sy’n deillio’n uniongyrchol o reoli COPD.”

Ar hyn o bryd mae COPD yn gyflwr sy’n cael ei danddiagnosio, gyda rhyw 50 y cant o ddioddefwyr yn anymwybodol o’u diagnosis. Mae cyfraddau adnabod a thrin gwael o ran methiant resbiradol yn cynyddu risg marwolaeth; felly ar hyn o bryd mae gwir angen gwella cyfraddau diagnostig, lleihau baich gwaethygiadau ac atal yr angen i gleifion dreulio cyfnodau yn yr ysbyty.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes technoleg o’r radd flaenaf na safon aur ar gael i adnabod arwyddion cynnar bod y clefyd yn gwaethygu mewn COPD.

Mae Dr Lewis wedi adnabod potensial defnyddio sbectrosgopeg is goch trawsnewid Fourier (FTIR) fel technoleg gyflym, gost-effeithiol ac anfewnwthiol ar gyfer diagnosio COPD a rhagweld gwaethygiadau.

Fodd bynnag, mae offer FTIR cyfredol yn ddrud iawn sydd felly’n cyfyngu ar ddefnyddio’r fethodoleg yn eang mewn ffordd gost-effeithiol.  Bellach mae’r ffaith bod cyfansoddion bychain ar gael ar gyfer offer cost isel yn cynnig y cyfle i drawsnewid hygyrchedd clinigol.

Mae tîm Dr Lewis yn labordy blaenllaw ar astudio sbectrosgopeg is goch ar gyfer dadansoddi strwythur mwsin a glycosyleiddio sy’n berthnasol i glefyd resbiradol. Maent yn arwain treial aml-ganolfan Medlung y DU ar gyfer diagnosteg resbiradol ac wedi adnabod patrymau mewn poer cleifion sy’n unigryw i COPD ac sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer patentau. Mae rhagor o ymchwil ar batrymau afiechydon resbiradol penodol bellach ar waith ac yn dangos potensial addawol.

 Sputum taken with the Centre for NanoHealth’s Scanning Electron Microscope (SEM)

Bydd y cytundeb datblygu gan SBRI yn galluogi astudiaeth ddichonoldeb i archwilio’r potensial i ddarparu datrysiad yn seiliedig ar dechnoleg y gellir ei gyflwyno’n syml fel dull o adnabod difrifoldeb clefyd, datblygiad clefyd ac arwydd cynnar bod y clefyd yn gwaethygu.  

Meddai Dr Lewis: “Trwy ddefnyddio bioddangosyddion COPD is goch a chyfansoddion electronig ac optegol modern, y nod yn y pen draw yw datblygu dyfais FTIR fechan y gellir ei dal yn y llaw i wneud y broses o ganfod clefydau a’u monitro’n haws i weithwyr gofal iechyd ar y pwynt gofal.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth Cam 1 hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer prosiect Cam 2 cyflawn, trwy werthuso hyfywedd technegol, clinigol, rheoleiddiol a masnachol y dechnoleg, ac ar gyfer paratoi strategaeth weithredu a masnachol gyflawn.”

Lluniau:
Dr Paul Lewis o Ganolfan Nano-Iechyd Prifysgol Abertawe, (CNH) gyda’r ddyfais isgoch trawsffurfio Fourier (FTIR) fechan.
Llun o Sputum gafodd ei dynu gan meicrosgop sganio electron (SEM) y Ganolfan Nano-Iechyd.