Prifysgol Abertawe yn rhagori mewn gwobrau addysg uwch chwenychedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu'r newyddion y bu eto'n llwyddiannus yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education, wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori.

Rydym wedi cyrraedd rhestr fer THE 2014 yn y categori Strategaeth Ryngwladol Eithriadol a'r categori Derbyniadau Myfyrwyr Eithriadol.

Mae Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education yn dathlu sgiliau arweinyddiaeth, rheolaeth, ariannol a busnes y sector. Gyda'r categorïau yn cynnwys popeth o Strategaeth Ryngwladol i Wasanaethau Myfyrwyr, o Godi Arian i Adnoddau Dynol, ac o Ystadau i Dderbyniadau, mae'r gwobrau'n arddangos arloesedd, gwaith tîm a chraffter masnachol neilltuol sefydliadau addysg uwch y DU.

Enillodd Prifysgol Abertawe gystadleuaeth galed yng Ngwobrau Times Higher Education y llynedd i ennill y categori Gwasanaethau Myfyrwyr Eithriadol, ac yn 2012 enillodd y tîm adnoddau dynol y wobr Tîm Adnoddau Dynol Eithriadol.

Mae cais Prifysgol Abertawe ar gyfer y categori Tîm Derbyniadau Myfyrwyr Eithriadol eleni yn cynnwys cyflwyniad ar y cyd gan y timau recriwtio, derbyniadau a marchnata, am eu bod wedi datblygu ac arwain strategaeth recriwtio a derbyniadau traws-brifysgol hynod lwyddiannus ar gyfer israddedigion cartref newydd – gyda chynnydd o 24% yn y nifer o geisiadau yn 2013, a 25% yn 2014; a chynnydd o 26% yn y nifer o fyfyrwyr newydd a gofrestrodd yn 2013.

Wrth siarad am gyflawniadau'r Brifysgol, meddai'r Is-ganghellor Yr Athro Richard B. Davies,

"Mae Prifysgol Abertawe yn parhau i fynd o lwyddiant i lwyddiant.

"Mae'r cynnydd pellach o record o 25% mewn ceisiadau eleni yn adlewyrchu gwaith caled ein timau derbyniadau myfyrwyr, recriwtio a marchnata ar wella'r broses recriwtio a gwneud cais. Mae eu hymdrechion ar y cyd hefyd wedi arwain at y nifer uchaf o bobl yn bresennol ar ein diwrnodau agored.

"I'r un graddau, mae'r tîm strategaeth ryngwladol wedi bod yn gweithio’n galed i gynyddu ein proffil yn rhyngwladol, ac o ganlyniad cafwyd cynnydd o 37% yn y nifer o geisiadau israddedig tramor, a chynnydd o 11% ar gyfer ceisiadau ôl-raddedig (a addysgir). Yn ôl ei ddiffiniad, mae rhyngwladoli'n cynnwys themâu trawsbynciol mawr y mae angen mynd i'r afael â nhw ym mhob maes yn y Brifysgol. Mae Swyddfa Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol  wedi datblygu ymagweddau arloesol o ran ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys yn y Dwyrain Canol. Mae ein hymagwedd gyfannol tuag at ryngwladoli yn galluogi i'r Brifysgol ymgysylltu mewn ffordd wirioneddol gynrychiolaidd.

"Yn ogystal â'r newyddion bod Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr yr ugain prifysgol orau yn y DU ar gyfer deuddeg pwnc yn Complete University Guide 2014, wedi cyrraedd y rhestr o 200 o sefydliadau gorau'r byd yn Safleoedd Pynciau Prifysgolion Gorau’r Byd QS ac wedi cadw'i lle yn y 5% o brifysgolion gorau'r byd yn Safleoedd Prifysgolion Gorau’r Byd QS 2013/14, gallwn ddangos yn wirioneddol ein bod yn sefydliad uchelgeisiol ag addysgu o'r ansawdd uchaf, a bod Abertawe'n lle gwych i astudio ar gyfer myfyrwyr o'r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol."

Mae tystiolaeth arall yn cyfleu darlun tebyg:

  • Graddiodd  Sunday Times’ University Guide 2014 Brifysgol Abertawe ymhlith y 50 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig, ar ôl codi pum safle, a Phrifysgol Abertawe oedd yr unig brifysgol yng Nghymru i symud i fyny yn y tabl. Roedd y canllaw hefyd yn cydnabod bod Prifysgol Abertawe ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig o ran rhagolygon swyddi graddedigion, gyda 77% o raddedigion mewn swyddi proffesiynol neu’n ymgymryd ag astudiaethau graddedig.
  • Roedd y system fyd-eang o raddio prifysgolion, sef Sêr QS, hefyd wedi rhoi’r marc uchaf o 5 seren i Brifysgol Abertawe am ansawdd addysgu, a chadwodd ei safle ymhlith y 500 o brifysgolion gorau yn y byd yn Safleoedd Prifysgolion Gorau’r Byd QS.
  • Mae bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr (86%), yn uwch na chyfartaledd Cymru a’r Deyrnas Unedig.
  • Mae mwy na 90% o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe eisoes mewn addysg bellach neu gyflogaeth o fewn chwe mis ar ôl graddio, a bydd ein myfyrwyr yn cael dechrau gwell fyth drwy ein Hacademi Gyflogadwyedd, a lansiwyd yn 2012.