Prifysgol Abertawe yn dadorchuddio noddwr Farsity

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae St. Modwen, y cwmni sydd yn gyfrifol am ddatblygiad £450 miliwn Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi Prifysgol Abertawe, wedi cytuno i noddi Her Farsity Cymru.

Dyma'r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a'r ail ornest fwyaf ym Mhrydain y tu ôl Rhydychen v Caergrawnt.

Yn ystod Her Farsity Cymru, mae prifysgol Abertawe a phrifysgol Caerdydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn dros 20 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff, hoci a nofio i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol.

varsity sponsorMae'r gystadleuaeth yn cyrraedd uchafbwynt â'r gêm rygbi fawr, sy'n cael ei chynnal o flaen torf o filoedd yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

St. Modwen fydd prif noddwr corfforaethol Prifysgol Abertawe, a bydd enw’r cwmni i’w weld ar grysau rygbi’r timoedd.

 

Llun (o’r chwith) - Athro Davies, capten tîm rygbi Abertawe Elliott Jones, a Mr Joseland.

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B. Davies,: "Y Farsity yw un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous yng nghalendr y Brifysgol; yn rhan hyfryd o brofiad y myfyrwyr sydd ar gael yn Abertawe. Bob blwyddyn, mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn, ac mae llawer mwy yn teithio yno er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r timoedd sy'n cystadlu.

"St Modwen yw’n partneriaid allweddol wrth gyflwyno ein Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd, gyda’r nod o wella profiad y myfyrwyr ymhellach drwy ddarparu lle ar gyfer addysgu a dysgu o’r radd flaenaf. Mae'n newyddion gwych eu bod nhw bellach yn bartneriaid Farsity hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at lwyddiant pellach ar ac oddi ar y cae. "

Dywedodd Rupert Joseland, Cyfarwyddwr Rhanbarthol St Modwen (Cymru): "St Modwen, arbenigwr adfywio mwyaf blaenllaw'r DU, yw datblygwr Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi sydd werth £450 miliwn, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r brifysgol a'i 15,000 o fyfyrwyr, fel noddwr swyddogol Her Farsity Cymru 2014."