Prifysgol Abertawe yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau GIG Cymru 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyhoeddwyd heddiw (Mawrth 10, 2014) bod Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau GIG Cymru 2014.

Mae’r datblygiad o fesurau newydd i asesu ansawdd bywyd a difrifoldeb clefydau ymysg cleifion â chlefyd llidiol y coluddion wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Myfyrwyr yn Gwella Diogelwch Cleifion ac Ansawdd (wedi'i noddi gan Gymuned Myfyrwyr ac Addysgwyr 1000 o Fywydau a Mwy).

Dr Laith AlrubaiyDr Laith Alrubaiy, myfyriwr PhD a Darlithydd Clinigol mewn Meddygaeth a Gastroenteroleg ym Mhrifysgol Abertawe, yw prif ymchwilydd yr astudiaeth cafodd ei chynnal yn ysbyty Castell Nedd Port Talbot i asesu effaith clefyd llidiol y coluddion ar gleifion, a sut i wella’u gofal.

Meddai Dr Alrubaiy: “Rwy’n hynod o falch bod ein gwaith i wella gofal iechyd a monitro cleifion wedi cael ei gydnabod gan feirniaid Gwobrau GIG Cymru. Mae’n dipyn o gamp i gyrraedd y rhestr fer, felly rydym yn croesi’n bysedd ar gyfer llwyddiant”.

Mae’r Gwobrau GIG Cymru blynyddol yn dathlu gwaith mudiadau a thimoedd ledled Cymru sy’n darparu gofal arbennig, a chaiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni ar 2 Gorffennaf, 2014.

Cafwyd mwy na 140 o geisiadau o bob cwr o Gymru a chafodd y panel o feirniaid, sy'n arbenigwyr ar y GIG, y gorchwyl anodd o ddethol y ceisiadau ar gyfer y rhestr fer mewn wyth o gategorïau.

Y cam nesaf yw i'r paneli o feirniaid ymweld â phob prosiect ar y rhestr fer i gael rhagor o wybodaeth ac i weld y manteision i gleifion drostynt hwy eu hunain.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford fod safon y ceisiadau'n dangos proffesiynoldeb, ymrwymiad a sgiliau staff GIG Cymru.

Meddai Prof Drakeford: "Rwyf wastad yn rhyfeddu at ansawdd uchel y ceisiadau yng Ngwobrau GIG Cymru.  Maent yn dangos ymrwymiad ein staff i ddarparu gofal diogel, effeithlon a thosturiol.

"Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle gwych i ddathlu rhagoriaeth ac i ddangos talentau timau ledled Cymru sy'n gweithio'n barhaus i wneud gwelliannau sydd o fudd i gleifion yn yr ysbyty ac yn y gymuned.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgeisio a dymuno'n dda i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol."

Caiff Gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan 1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella, sy'n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru ac sy'n cynorthwyo sefydliadau ac unigolion i ddarparu gwell iechyd, canlyniadau gofal iechyd a phrofiad i ddefnyddwyr yn GIG Cymru.
Fe'u lansiwyd yn 2008 i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu'r GIG.

Mae pob panel o feirniaid yn cynnwys arbenigwyr o bob cwr o GIG Cymru, y sector cyhoeddus a chyrff proffesiynol.

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2014 mewn seremoni yn Stadiwm Swalec, Caerdydd ddydd Mercher, 2 Gorffennaf, 2014.

Am fanylion pellach o’r rheini sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.