Prifysgol Abertawe yn Cwestiynu Prosesau'r 'Rhyngrwyd Dywyll'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ymunodd arbenigwyr o ystod o feysydd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ag asiantaethau a chydweithwyr allanol proffil uchel mewn cynhadledd i drafod archwiliadau i ddirgelwch y 'Rhyngrwyd Dywyll'.

Mae'r Rhyngrwyd Dywyll yn un o nifer o ffyrdd a ddefnyddir i gyfeirio at ryngrwyd na ellir ei holrhain ac ni ellir cael mynediad iddi drwy foddau arferol. Mae'n ofod rhithwir yn llawn sefydliadau troseddol megis delwyr arfau, rhwydweithiau terfysgwyr a masnachwyr cyffuriau, yn gweithredu y tu allan i strwythurau cyfreithiol cyfredol.

Daeth y digwyddiad ag asiantaethau allanol, megis y Cenhedloedd Unedig a'r Swyddfa Gartref, at ei gilydd ag arbenigwyr ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai Dr Stuart MacDonald, arbenigwr seiberderfysgaeth ym Mhrifysgol Abertawe, "Mae'r byd ehangach yn dechrau clywed am y grymoedd pwerus ac annymunol sydd ar waith yn y Rhyngrwyd Dywyll. Mae'r seiberisfyd yn bygwth sawl agwedd ar ddiogelwch a diogeledd modern, a'n nod yn Abertawe yw arwain y ffordd i ddeall ffyrdd i dreiddio a goresgyn rhai o'r heriau mwyaf sy'n gysylltiedig â'r bygythiad hwn sy'n datblygu.

Gellir cael mynediad i'r Rhyngrwyd Dywyll hefyd drwy ddulliau megis 'The Onion Router', lle gall defnyddwyr brynu ystod o nwyddau anghyfreithlon, gan gynnwys arfau a chyffuriau, gan ddefnyddio'r arian rhithwir, Bitcoin.

Meddai'r Athro David Bewley-Taylor, Cyfarwyddwr yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang yn Abertawe, "Mae'r ffurf gynyddol hon o e-fasnach, y cyfeirir ato fel 'Silk Road', y tu hwnt i reoleiddiad y llywodraeth, ac mae'n ffynnu. Mae ffigurau diweddar yn honni bod 15,000 o bobl yn defnyddio'r Rhyngrwyd Dywyll bob dydd, a hynny yn y DU yn unig. Mae'r gofod rhithwir yn darparu'r llwyfan perffaith i sefydliadau troseddol fasnachu unrhyw beth."

Un maes allweddol i'w archwilio yw'r defnydd cymhleth o batrymau iaith ar y Rhyngrwyd Dywyll. Meddai'r Athro Nuria Lorenzo-Dus, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Iaith yn Abertawe, "Mae datblygiadau mewn dadansoddi ieithyddiaeth, gan gynnwys defnyddio meddalwedd ieithyddiaeth corpws o'r radd flaenaf, yn ei gwneud hi'n fwyfwy posib i olrhain awduriaeth ar y Rhyngrwyd Dywyll, ac ar ben hynny i greu proffiliau cyfathrebol ar gyfer gweithgareddau sy'n amrywio o berswadio defnyddwyr i fuddsoddi mewn gweithgareddau anghyfreithlon penodol i drafod amodau a thelerau cytundebau.

Mae pwysigrwydd ymchwilio'r Rhyngrwyd Dywyll wedi denu cydweithwyr allanol proffil uchel i ddatblygu prosiectau ymchwil, cydweithwyr megis Francesca Bosco o Sefydliad Ymchwil Troseddol Rhyngranbarthol y Cenhedloedd Unedig (UNICRI), a amlygodd arwyddocâd rhyngwladol y gwaith. Meddai, "Mae gweithgareddau rhwydweithiau troseddu trefnedig wedi bod yn ffocws allweddol ar agenda ymchwil UNICRI ers sawl blwyddyn, gan archwilio troseddoldeb trefnedig mewn ystod o weithgareddau anghyfreithlon yn y seiberofod, ac mae'r Rhyngrwyd Dywyll yn ffenomen gynyddol ymhlith y rheiny, gan achosi cryn bryder. Mae angen cydweithredu a chydamseru ar lefel uchel yn rhyngwladol er mwyn brwydro troseddu trefnedig ar-lein, a rhaid i'r gymuned ryngwladol fynd i'r afael ag ef ar y cyd drwy gydymdrechion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol."

Cefnogir y gwaith hwn gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Sefydliad Ymchwil ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol (RIASS) ym Mhrifysgol Abertawe, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y gyfraith a chyfrifiadureg. Mae'r cymysgedd hwn o feysydd ymchwil yn hanfodol i ddatgloi byd dirgel ac aflonyddol y Rhyngrwyd Dywyll gynyddol.