Prifysgol Abertawe yn arwain digwyddiad ar Ddemocratiaeth Ddigidol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddar, daeth rhanddeiliaid allweddol o’r sector digidol at ei gilydd mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd i drafod sut y gallant weithio tuag at ddemocratiaeth ddigidol.

Cynhaliwyd y digwyddiad dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn ymateb i awgrym Comisiwn y Llefarydd i sefydlu democratiaeth ddigidol i ymchwilio a deall sut gall technoleg wella’r berthynas rhwng y Senedd, y Llywodraeth a'r cyhoedd.

Digital Democracy ‌Wedi iddo groesawu Edward Wood o Gomisiwn y Llefarydd, meddai’r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe (chwith): “Mae hwn yn fenter heriol a chyffrous gan y Llefarydd. Mae'n arbennig o briodol y dylai Comisiwn y Llefarydd ymgysylltu â Phrifysgol Abertawe, o ystyried ein proffil ymchwil cryf ym maes rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron a'r hanes llwyddiannus o'n gwyddonwyr cyfrifiadurol yn ymgysylltu â disgyblaethau eraill”.

Roedd y diwrnod yn llwyfan ar gyfer trafodaethau, dadleuon, a rhwydweithio wrth i siaradwyr o’r BBC, Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, y DVLA a Choleg Prifysgol Llundain cynnal sgyrsiau ar sut i gysylltu’n well gyda chynulleidfaoedd, cwsmeriaid a dinasyddion.

Rhan bwysig o’r digwyddiad oedd archwilio sut i gadw'r ffactor dynol wrth wraidd arloesiadau digidol newydd yn y dyfodol.

Meddai’r Athro Matt Jones, Pennaeth Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe: “Buom yn ystyried sut i fynd y tu hwnt i ryngweithiadau digidol ‘clinigol’. Wedi’r cyfan, nod democratiaeth yw sicrhau bod pobl yn gweithio gyda’i gilydd, yn hytrach na gweithio’n unigol wrth eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur.

“Cafodd llawer o syniadau da eu rhannu yn ystod y diwrnod, a bydd y rheiny yn cael eu rhannu gyda Chomisiwn y Llefarydd er mwyn llunio dyfodol Democratiaeth Ddigidol”.

Meddai Edward Wood, Comisiwn Democratiaeth Ddigidol yn Nhŷ’r Cyffredin: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe am drefnu digwyddiad rhagorol.  Mae dull gweithredu Prifysgol Abertawe yn atgyfnerthu barn y Comisiwn bod angen i ddemocratiaeth ddigidol weithio yn wleidyddol, yn hytrach na chyflwyno ap neu wefan arall i’r byd".