Prifysgol Abertawe yn adeiladu partneriaeth gydag un o brifysgolion gorau Tecsas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedi arwyddo cytundeb partneriaeth gyda Phrifysgol Houston yn Tecsas.

Mae arwyddo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn un o nifer o weithgareddau y mae'r Canghellor, Rhodri Morgan, a’r Is-ganghellor, yr Athro Richard B. Davies, yn eu gwneud yn ystod eu hymweliad â Tecsas er mwyn cryfhau a datblygu cytundebau partneriaeth gyda phrifysgolion gorau Tecsas.

Mae’r brifysgol eisoes wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgolion Rice ac A&M, a'r Sefydliad Ymchwil Ysbyty Methodistaidd yn Houston, Tecsas, a bellach maent am  ddatblygu cytundebau newydd gyda Phrifysgol Houston a Phrifysgol Tecsas yn Austin.

Mae'r partneriaethau yma yn adeiladu ar lwyddiannau Prifysgol Abertawe yn ystod y blynyddoedd diwethaf a pharhau â chyfnod newydd i Abertawe fel prifysgol sy'n canolbwyntio’n yn fyd-eang.

Texas MOU signing Mae'r partneriaethau yn Nhecsas yn cynnig cyfleoedd arbennig i staff a myfyrwyr drwy gydweithio a chynlluniau cyfnewid.

Mae'r bartneriaeth yn darparu cynnydd enfawr mewn cyfleoedd i staff a myfyrwyr trwy gydweithio a chyfnewid. Bydd academyddion Abertawe yn gallu mynd i'r afael â heriau ymchwil a bydd gan fyfyrwyr yr opsiwn o astudio mewn prifysgolion yn Nhecsas fel rhan annatod o'u rhaglenni gradd.

‌Mae eisoes gan y Brifysgol partneriaeth gyda’r sefydliadau canlynol yn Nhecsas:

  • Ymchwil ar y cyd rhwng Sefydliad Ymchwil Ysbyty Methodistaidd, Sefydliad Gwyddorau Bywyd a'r Ganolfan NanoIechyd yn Abertawe.
  • Cydweithio gyda, Phrifysgol A&M yn Nhecsas i ddatblygu cyfleusterau gweithgynhyrchu therapiwteg.
  • Gwaith ar y cyd gyda A&M Tecsas  a Phrifysgol Rice wrth ddatblygu rhaglen o ymchwil a hyfforddiant sy'n ymwneud â dŵr byd-eang, ynni a thanwydd argyfyngau a'u datrysiad.

‌Bydd y bartneriaeth newydd gyda Houston yn meithrin datblygiadau ym meysydd peirianneg, egni, y celfyddydau a’r dyniaethau, a thechnoleg gwybodaeth.

Bydd Prifysgol Houston hefyd yn ffurfio partneriaeth ag Arsyllfa Cymru a Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi'u leoli ym Mhrifysgol Abertawe, fel rhan o broses o ryngwladoli’r Arsyllfa. Yn ystod yr ymweliad, bydd Rhodri Morgan, Cyn-brif Weinidog Cymru yn traddodi darlith am Gymru a hawliau plant.

Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro Richard B. Davies: “Mae ein strategaeth globaleiddio yn amlygu pwysigrwydd partneriaethau strategol gyda phrifysgolion cryf mewn mannau eraill yn y byd. Yn ogystal i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a rhaglenni cyfnewid staff academaidd mae gennym ddiddordeb mewn gweithgareddau ar y cyd a all ymestyn o weithio ar y cyd gyda diwydiant i gyd-apwyntiadau staff academaidd.

“Rydym yn gyffrous iawn am y cyfleoedd y mae hyn yn cynnig i fyfyrwyr. Mae Abertawe wedi cynnal  rhaglenni cyfnewid dramor ers blynyddoedd lawer, ac rydym wedi gweld sut pa mor fuddiol yw’r profiad i fyfyrwyr, a pha mor bositif mae darpar-gyflogwyr yn gweld y profiadau tramor yma”.

have seen how educationally beneficial it is to study in another country and we know how positively employers view this type of overseas experience.”

Llun: Canghellor Prifysgol Houston Renu Khator ac Is-ganghellor prifysgol Abertawe, Richard B. Davies yn arwyddo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym Mhrifysgol Houston.