Prifysgol Abertawe'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dathlodd Prifysgol Abertawe Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014 trwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ysbrydoli gyda'r nod o amlygu rôl a chyflawniad menywod ledled y byd.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (a ddathlir ar 8 Mawrth bob blwyddyn) yn ddigwyddiad byd-eang sy'n annog hyrwyddo cynnydd menywod ym mhob ffordd ac ym mhob maes. Y thema eleni oedd Ysbrydoli Newid, oedd yn anelu at uchafu'r amrediad enfawr o sianeli cyfathrebu, llefarwyr cefnogol, ymchwil cydraddoldeb, ymgyrchoedd, a mentrau cyfrifoldeb corfforaethol sy'n golygu y gall pawb annog newid ysbrydoledig er mwyn sicrhau cynnydd i fenywod.

Dechreuodd digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mhrifysgol Abertawe gyda darlith ddydd Mercher 5 Mawrth, a drefnwyd gan y Coleg Meddygaeth. Siaradodd Ruth Hussey (Prif Swyddog Meddygol Cymru) a'r Athro Alexandra Blakemore (Athro Geneteg Foleciwlaidd Ddynol, Meddygaeth, Coleg Imperial Llundain) am eu gyrfaoedd, yr heriau a wynebwyd ganddynt, a'r cyfaddawdu a fu i gyflawni eu huchelgeisiau.

Ddydd Gwener 7 Mawrth, cynhaliodd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau gynhadledd undydd ar Gydraddoldeb Rhywiol a Datblygu Gyrfa, a noddwyd gan yr Academi Brydeinig. Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd araith gan yr Athro Christina Slade, Is-ganghellor Prifysgol Bath Spa, a fyfyriodd ar ei gyrfa gyfareddol a rhai o'r menywod blaenllaw y mae wedi cwrdd â nhw, gan gynnwys Germaine Greer a Benazir Bhutto.  Fe'i cyflwynwyd gan Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Cydraddoldeb, yr Athro Hilary Lappin-Scott, a siaradodd am ei gyrfa hithau.

Roedd y diwrnod yn cynnwys sesiynau eraill ar lwybrau gyrfa menywod, ysgrifennu CV, gweithio hyblyg, siarad â'r cyfryngau, a gofyn am ddyrchafiad.

Brynhawn Gwener, cynhaliodd Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd weithdy a dargedwyd at ferched lleol Du, Asiaidd, ac o Gefndiroedd Ethnig Lleiafrifol, i'w hannog i fynd am yrfa ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd yr Athro Joy Merrell, o'r Adran Iechyd Cyhoeddus ac Astudiaethau Polisi, a Chantal Patel, Pennaeth Astudiaethau Rhyngbroffesiynol yn y Brifysgol, wedi cydweithio â thîm Ymgyrraedd yn Ehangach y Brifysgol, Canolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe, a Thîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig Abertawe, a ddaeth ag 20 aelod o'u grŵp merched (11-16 oed) i'r digwyddiad. Dysgodd y merched am yr ystod o raglenni iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir gan y Coleg, cawsant wrando ar straeon ysbrydoledig menywod Du, Asiaidd, ac o Gefndir Ethnig Lleiafrifol sydd wedi cyflawni ar lefel uchel, a bu iddynt fwynhau, a chymryd rhan mewn, amrywiaeth o berfformiadau dawns rhyngwladol.

Dywedodd Charlie James, Swyddog Rhwydwaith Academaidd Merched Gwyddonol Athena a Chynorthwyydd Cyfle Cyfartal ym Mhrifysgol Abertawe, oedd yn gwneud peth o'r gwaith o drefnu digwyddiadau'r wythnos: "Eleni, yn fwy nag erioed o'r blaen, roedd cyffro go iawn ynghylch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

"Cafwyd croeso rhyfeddol o dda i'r digwyddiadau a drefnwyd yma yn y Brifysgol, a chafwyd presenoldeb arbennig o dda hefyd. Rydym yn gobeithio bod y siaradwyr ysbrydoledig wedi helpu menywod eraill i ddatblygu'r hyder i wireddu eu huchelgais. Roedd yn dda gweld Undeb y Myfyrwyr yn cymryd rhan hefyd, gyda stondin y tu allan i Dŷ Fulton.

"Yn fwy cyffredinol, rydym yn gobeithio bod digwyddiadau eleni'n arwydd o ymwybyddiaeth gynyddol ledled y byd am rôl a gweithgarwch menywod yn y gymdeithas, ac rydym yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar gynnydd menywod yn y dathliad y flwyddyn nesaf."