Prifysgol Abertawe’n cynnal Cynhadledd Ryngwladol Canmlwyddiant Dylan Thomas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir Dylan Unchained: Cynhadledd Ryngwladol Canmlwyddiant Dylan Thomas (1914-2014), gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe o 3 - 5 Medi 2014.

Yn ystod y gynhadledd, bydd ymchwil newydd ar waith Dylan Thomas, o’i gerddi i bropaganda rhyfel, yn cael ei gyflwyno gan academyddion mewn amryw o drafodaethau a digwyddiadau yng nghwmni beirdd a dramodwyr.

Dylan Unchained2Mae gan y gynhadledd amrywiaeth gwirioneddol ryngwladol, a thraddodir darlithoedd gan unigolion o Awstralia, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Wcráin, a'r Ffindir. Bydd dylanwad Dylan Thomas a’i gysylltiadau gyda beirdd Gwyddelig, jazz Americanaidd a'r byd llenyddol Saesneg i gyd yn bynciau fydd o dan sylw gan nifer o academyddion o fri ac ysgolheigion ifanc. Bydd dimensiynau dadleuol perthynas Dylan Thomas â Chymru yn ganolbwynt i nifer o baneli damcaniaethol arloesol.

Mae rhai o uchafbwyntiau eraill y gynhadledd yn cynnwys darlleniad barddoniaeth gan Geraldine Monk a David Annwn, a gyflwynir gan Ian McMillan; taith dywys o lyfrau nodiadau Dylan Thomas sydd ar fenthyg gan y Brifysgol yn Buffalo, UDA, a’r perfformiad byw cyntaf o’r ddrama radio, Chelsea Dreaming .

Traddodir darlithoedd cyweirnod y gynhadledd gan Dr Leo Mellor (Caergrawnt); yr Athro Carol Watts (Birkbeck, Llundain); a’r Athro John Wilkinson (Chicago). Bydd yr Athro John Goodby o Brifysgol Abertawe yn traddodi darlith wrth iddo gyflwyno fersiwn canmlwyddiant o Dylan Thomas, Collected Poems 1934-1953 (Orion books/New Directions) a gyhoeddir ym mis Hydref eleni.

Meddai Dr Kirsti Bohata, prif drefnydd ‘Dylan Unchained’ a Chyfarwyddwraig Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW) ym Mhrifysgol Abertawe:  "Mae hon yn gynhadledd ryngwladol enfawr ar Dylan Thomas, ac mae'n gwbl briodol bod yn gynhadledd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gennym raglen go arbennig sy’n cynnwys arbenigwyr o’r Unol Daleithiau, Awstralia, yr Wcráin, Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol.  Rydym wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y gynhadledd yn cynnwys rhywbeth fydd at ddant pawb, boed hynny’n ddarlith, perfformiad, darlleniad neu arddangosfa”.