Nofel Dr Fflur Dafydd yn cael ei haddasu i’r sgrîn fawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd ‘Y Llyfrgell’, nofel Dr Fflur Dafydd, Uwch-ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cael ei haddasu’n ffilm fel rhan o gynllun ‘Sinematig’ Asiantaeth Ffilm Cymru.

Fflur DafyddMae’r ffilm yn un o dri phrosiect fydd yn cael eu datblygu ymhellach ar y cyd gyda BBC films, BFI, Soda Pictures, ac S4C.

Bu Fflur yn gweithio gyda'r Asiantaeth Ffilm ers pedair blynedd yn datblygu'r sgript pan ddaeth y cyfle i wneud cais am gyllid drwy gynllun 'Sinematig'.

“Dwi wrth fy modd fy mod i, a’r cyfarwyddwr Euros Lyn, wedi ennill y cais i gynhyrchu ein ffilm eleni - y mae'r prosiect wedi bod yn waith sawl blwyddyn ac yn uchelgais bersonol i mi - gan fy mod wedi gweld y syniad penodol yma fel ffilm yn gyntaf” meddai’r awdur a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am y nofel yn 2009.

Y ddau brosiect arall fydd yn cael eu datblygu ymhellach yw 'Just Jim' gan Craig Roberts a Pip Broughton, a ffilm arswyd 'The Lighthouse' gan Chris Crow, Michael Jibson a David Lloyd.

Meddai Fflur ei bod wrth ei bodd mai Euros Lyn, sydd wedi gweithio ar gyfresi Dr Who, Broadchurch a Last tango in Halifax, fydd yn cyfarwyddo’r ffilm.

“Mae Euros yn gyfarwyddwr talentog dros ben a dwi wrth fy modd i gael gweithio gyda rhywun mor brofiadol.”

Wedi’i gosod yn y Llyfrgell Genedlaethol, stori ddialgar yw ‘Y Llyfrgell’ am ddwy efaill sydd am osod trap yn y llyfrgell er mwyn dal llofrudd eu mam. Mae Fflur yn dweud ei bod eisoes wedi bod mewn cysylltiad â’r Llyfrgell Genedlaethol i drafod ffilmio golygfeydd yno.

“Mae defnyddio gofod mor eiconig â Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel cefnlen i'r stori yn gyfle gwych i gyflwyno trysorau Cymru i gynulleidfaoedd eang.”

Gobaith Fflur yw y bydd y gwaith o gyd-gynhyrchu’r ffilm gydag Euros Lyn yn dechrau yn 2015 ac y bydd y ffilm  yn cyrraedd y sgrîn fawr a’r sgrîn fach yn 2016.

Llun: Chris Reynolds.