Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae mam 41 mlwydd oed o Gymru wedi’i hanrhydeddu mewn digwyddiad mawreddog i ddathlu’r myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth gorau yn y DU.
Cydnabuwyd sgiliau eithriadol myfyrwraig bydwreigiaeth Lindsay Skyrme, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, yng Ngwobrau Ysgoloriaeth clodfawr 2014 Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell. Daeth Lindsay yn ail ar gyfer y wobr cyrhaeddiad academaidd.
Derbyniodd ei gwobr gan Jane Cummings, Prif Swyddog Nyrsio Lloegr, mewn seremoni ddisglair yn Ninas Llundain, lle'r wraig wadd oedd ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, sy’n Llywydd Apêl Canmlwyddiant Edith Cavell yr elusen.
Yn y DU, mae’r elusen, ‘Cymynrodd byw ar gyfer gofalu a dysgu’, yn cefnogi 650,000 o fyfyrwyr nyrsio, nyrsys wrth eu gwaith a nyrsys sydd wedi ymddeol, bydwragedd a chynorthwywyr gofal iechyd y mae angen cymorth ariannol arnynt yn dilyn salwch, anaf neu anawsterau eraill.
Mae’r ysgoloriaethau’n ffurfio rhan o’u rhaglen addysgol ac maent ar agor i fyfyrwyr sy’n astudio ar hyn o bryd ar gyrsiau nyrsio neu fydwreigiaeth israddedig/ôl-raddedig neu ddiploma mewn prifysgolion yn y DU.
Wrth dderbyn ei gwobr meddai Lindsay: “A dweud y gwir, ni feddyliais erioed y byddwn yn dod mor bell yn yr ysgoloriaethau. Roedd hyd yn oed gyrraedd y rhestr fer yn fwy nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl, felly mae’n anrhydedd dod yn ail. Roedd yn rhaid i fy nhiwtor fy annog i gymryd rhan yn y gwobrau, ond pan ddarllenais i am Edith Cavell daeth yn rhywbeth yr oeddwn i am ei gydnabod a bod yn rhan ohono.”
Dechreuodd Lindsay, sy’n fyfyrwraig hŷn, astudio bydwreigiaeth ar ôl gyrfa 20-mlynedd yn y diwydiant gwestai ac yn dilyn genedigaeth ei merch, sydd bellach yn bedair blwydd oed. “Roeddwn i wastad â diddordeb mewn bydwreigiaeth a chefais fy swyno ganddi ar ôl cael babi. Dyna pryd rydych yn sylweddoli bod y gwahaniaethau sy’n ymddangos i fod yn rhai bach, yn aml yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i famau newydd, a bod cefnogi’r trawsnewidiad i fod yn rhiant o bwys mawr.”
Mae Lindsay bellach yn cynllunio parhau â’i hastudiaethau trwy ddilyn PhD yn archwilio dulliau naturiol yn erbyn dulliau technocratig o ran bwydo ar y fron.
Cafodd oddeutu 29 o fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth o ar draws y wlad eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer yr anrhydeddau mewn pum categori gwahanol yn rhychwantu nyrs a bydwraig eithriadol, arweinyddiaeth, cyrhaeddiad academaidd a chymunedol.
Roedd y broses ddethol drwyadl yn cynnwys cyfweliadau manwl i’r ymgeiswyr gan banel o feirniaid yn cynnwys rhai o’r ffigurau mwyaf blaenllaw mewn nyrsio gan gynnwys Helen Whyley, Swyddog Nyrsio Cymru a’r Athro Lesley Page, Llywydd Coleg Brenhinol y Bydwragedd.
Hon yw trydedd flwyddyn yr ysgoloriaethau, sy’n cael eu hyrwyddo gan brifysgolion, gyda’r nod o roi cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth eithriadol ddatblygu ymhellach eu harferion proffesiynol a’u rhinweddau personol.
Meddai’r Dywysoges Frenhinol, wrth annerch y gynulleidfa a wahoddwyd i’r digwyddiad gwobrwyo: "Mae’n bleser i mi ymuno â chi heno, mae’n achlysur hyfryd lle gallwn ddathlu a llongyfarch ein henillwyr ond hefyd roi diolch, yn enwedig i Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell am gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr Nyrsio ym Mhrydain ar gyfnod mor bwysig yn ystod eu gyrfaoedd.
Meddai ei Huchelder Brenhinol ei bod yn falch o fod yn Llywydd apêl canmlwyddiant yr elusen, gan ychwanegu: "Mae’r Ymddiriedolaeth yn credu bod hyn yn adeg briodol i ganiatáu i ni fuddsoddi hyd yn oed fwy yn nyfodol ein nyrsys a’n bydwragedd ifainc. Nod gwerthfawr dros ben ydyw ac mae digwyddiad o’r math hwn yn codi proffil y bobl ifanc hyn.”
Meddai fod enillwyr y gwobrau bellach ag "anrheg werthfawr dros ben" i allu mynd allan a dysgu.
"Os oes gan yr Ymddiriedolaeth y gallu i gefnogi mwy ohonynt, gallant ddenu mwy o bobl i’r cyfle a chefnogi eu huchelgeisiau a’u breuddwydion ar gyfer y dyfodol."
Mae’r elusen, sy’n helpu cannoedd o nyrsys, bydwragedd a chynorthwywyr gofal iechyd bob blwyddyn sy’n dioddef caledi o achos salwch, anabledd, chwalfa deuluol neu gam-drin domestig, yn hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer yr Apêl Ganmlwyddiant. Am ragor o wybodaeth am y rhain a gwybodaeth am waith Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell, ewch i www.cavellnursestrust.org neu ffoniwch 01527 595999.
- Dydd Llun 7 Ebrill 2014 11.41 BST
- Dydd Llun 7 Ebrill 2014 11.46 BST
- Swansea University