Jack to a King: rôl y brifysgol yn y ffilm newydd am hanes Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffilm ddogfen newydd sy’n olrhain cynnydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe o fod bron â mynd i’r wal i gyrraedd uchelfannau’r Uwch Gynghrair, yn cynnwys sawl cyfweliad gyda’r hanesydd a chefnogwr gydol oes yr Elyrch, Huw Bowen.

Mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau heddiw (dydd Gwener, 12 Medi) – amseri perffaith am fod yr Elyrch ar frig yr Uwch Gynghrair gyda Chelsea, ac ar y penwythnos pan fydd y ddau dîm yn herio’i gilydd.

Gwyliwch raglun y ffilm: 

Wedi’i chyfarwyddo gan y Cymro, Marc Evans (Y Gwyll, Patagonia, House of America), mae Jack to a King yn adrodd y stori ryfeddol o sut ddaeth grŵp o adeiladwyr, gwragedd tŷ, athrawon ac asiantaethau teithio at ei gilydd i achub eu clwb pêl-droed annwyl, cyn iddo droi dinas Abertawe’n frand byd-eang.

Drwy ffilmiau archif a chyfweliadau, mae’r ffilm yn dangos siwrne’r clwb o gael ei werthu am £1, i’w dyrchafiad gwerth £90 miliwn i’r Uwch Gynghrair.

“Dyma ffilm am obaith, am obsesiwn, am ffyddlondeb, am bŵer unigolion, am gariad, ac am sut mae rhai pobl yn hoff o dywallt fodca ar eu Weetabix.”

‌Mae pêl-droed yr Uwch Gynghrair wedi bod yn un o'r ffactorau sydd wedi denu rhai myfyrwyr i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Huw BowenMae’r Athro Huw Bowen (chwith), o’r adran hanes a chlasuron, yn arbenigwr hanes modern Abertawe, yn enwedig rôl copr ar yr ardal. Mae ef hefyd yn gefnogwr gydol oes o’r Elyrch.

‌‌''Fel aelod die-hard o’r Jack Army am y 45 mlynedd diwethaf, rwyf yn hynod o falch o fod ochr yn ochr â rhai o fy arwyr chwaraeon yn y ffilm. Fel hanesydd, teimlaf fod y ffilm yn ddarn gwirioneddol arwyddocaol o hanes diwylliannol a fydd yn apelio at bawb”.

‌“Mae'n dangos pam fod pêl-droed yn golygu cymaint i bobl, a sut mae'n rhan annatod o'r cymunedau lleol, yn enwedig yn Abertawe”.

Mae gan Brifysgol Abertawe cysylltiadau cryf gyda thîm pêl-droed Dinas Abertawe.

  • Mae Huw Jenkins, Cadeirydd y clwb, sydd hefyd yn ymddangos yn y ffilm, yn Gymrawd Anrhydeddus i Brifysgol Abertawe.
  • Yn 2012, arwyddodd y Brifysgol gytundeb â’r Elyrch i ddatblygu ein meysydd chwarae yn Fairwood i fod yn gyfleusterau o safon yr Uwch Gynghrair. Golyga hyn y bydd ein caeau yn gyfleuster hyfforddi ar y cyd ar gyfer timau Dinas Abertawe a’r Brifysgol.
  • Mae ein prosiect Swans 100 yn archwilio, gwarchod a dathlu treftadaeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, gan gynnwys y blynyddoedd cythryblus sy'n cael eu cynnwys yn From a Jack to a King. Mae Swans 100 yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe.

Rhai o drysorau prosiect Swans 100:

  • Gêm gyntaf Tref Abertawe, yn 1912, yn erbyn Caerdydd - BBC
  • Gwyliwch:  Dinas Abertawe v Hull Mai 2003 – uchafbwyntiau’r gêm bu’n rhaid i’r Elyrch ennill er mwyn parhau fel clwb pêl-droed cynghrair.