Islywydd Banc Buddsoddi Ewrop yn ymweld â Champws y Bae Prifysgol Abertawe.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Tywysodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, Jonathan Taylor, Islywydd Banc Buddsoddi Ewrop, o gwmpas Campws y Bae, sydd yn y broses o gael ei adeiladu ar Fabian Way, Abertawe.

EIB visit to Bay campus1

Ym mis Medi 2012, cyhoeddodd Banc Buddsoddi Ewrop ei fod yn darparu cyllid o £60 miliwn i raglen datblygu campws Prifysgol Abertawe, gan gynnwys Campws y Bae sy’n werth £450 miliwn, lle fydd y Coleg Peirianneg a’r Ysgol Reolaeth wedi’u lleoli.

Meddai’r Is-ganghellor: “Datblygiad y campws yw’r prosiect mwyaf a arweinir gan unrhyw Brifysgol yn y DU, ac un o’r mwyaf yn Ewrop. Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Banc Buddsoddi Ewrop, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach, yr ymarfer diwydrwydd dyladwy trylwyr a chynhwysfawr a wnaed gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Mae’r ymarfer hwn wedi rhoi’r hyder i gyllidwyr eraill fod gan Abertawe’r cryfderau academaidd, cefnogaeth y diwydiant, a chymhwysedd rheoli i allu cwblhau prosiect o’r fath raddfa. Wfftiodd Banc Buddsoddi Ewrop y ddadl fod y prosiect “yn rhy fawr i Gymru”. ‘Dwi wrth fy modd i allu dangos datblygiadau’r safle i islywydd Banc Buddsoddi Ewrop er mwyn iddo allu gweld am ei hun sut mae’r gwaith adeiladu’n datblygu.”

EIB visit to Bay campus2

Mae'r Banc Buddsoddi Ewrop yw sefydliad benthyca mwya’r byd, ac yn eiddo i 28 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Y llynedd, darparwyd £4.8 biliwn ar gyfer prosiectau yn y DU.

Bydd Jonathan Taylor hefyd yn cyfarfod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt yn ystod ei ymweliad i drafod cyfleoedd i gynyddu benthyca Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru.

 

Llun 1:  Jonathan Taylor, Islywydd Banc Buddsoddi Ewrop gydag Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn ymweld â datblygiad Campws y Bae Prifysgol Abertawe.

Llun 2: Jonathan Taylor, Islywydd Banc Buddsoddi Ewrop yn crwydro o gwmpas Campws y Bae Prifysgol Abertawe.