Hanner can mlynedd ymlaen o thalidomid: Darlith Feddygol Dr Janina Hopkin

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’n bleser gan Sefydliad Meddygol Dewi Sant, mewn partneriaeth â’r Coleg Meddygaeth, am y tro cyntaf erioed Darlith Feddygol Dr Janina Hopkin.

'Hanner can mlynedd ymlaen o thalidomid – beth sy'n newydd mewn namau geni?'

Siaradwr Gwadd: Dr Patricia Boyd, Uned Epidemoleg Amenedigol Genedlaethol, Prifysgol Rhydychen

Dyddiad: Nos Fawrth 23 Medi 2014

Amser: 5.30pm gyda lluniaeth i ddilyn am 6:30pm

Lleoliad: Darlithfa Grove, Adeilad Grove, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe

Darlith wadd flynyddol nodedig yn y Coleg Meddygaeth, gyda chroeso i bawb.

Astudiodd Dr Patricia Boyd Feddygaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac aeth ymlaen i arbenigo a gweithio ym maes patholeg y ffetws a’r brychol, geneteg glinigol a diagnosis cyn-enedigol.

O 1992 hyd 2007, hi oedd y genetegydd clinigol ar gyfer diagnosis cyn-enedigol yn Rhydychen. Yn 1991 sefydlodd gofrestr anomaleddau cynhwynol yn Rhydychen gan fynd ymlaen i gyfrannu’n amlwg at BINOCAR (Cofrestrau Anomaleddau Cynhwynol Rhwydwaith Ynysoedd Prydain) ac EUROCAT (Gwyliadwriaeth Ewropeaidd o Anomaleddau Cynhwynol).

O 2007 i 2013, gweithiodd o’r Uned Epidemioleg Amenedigol Genedlaethol ym Mhrifysgol Rhydychen ac roedd yn Llywydd EUROCAT rhwng 2008 a 2010. Astudiodd, yn bennaf, effeithiolrwydd gwahanol bolisïau sgrinio cyn-enedigol ar ymarfer a chanlyniadau clinigol.