Gŵyl y Brifysgol yn eich gwahodd i ddarganfod yr ymchwil o safon fyd-eang sy'n digwydd ar garreg eich drws

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir trydedd Gŵyl Ymchwil Prifysgol Abertawe o ddydd Mercher, 19 Chwefror tan ddydd Sadwrn, 22 Chwefror.

Bydd yr Ŵyl yn cynnwys rhaglen amrywiol ac ysgogol o ddarlithoedd cyhoeddus, sgyrsiau a digwyddiadau, a fydd yn hyrwyddo'r gorau o gynnydd ymchwil sylweddol byd-eang Prifysgol Abertawe.

Cynhelir nifer o ddarlithoedd cyhoeddus am ddim yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin drwy gydol yr Ŵyl. Nid oes angen cadw lle, ac mae croeso i bawb – myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, staff cymorth ac academaidd y Brifysgol, gwesteion, ymwelwyr ac aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb.

Ymhlith uchafbwyntiau'r Ŵyl eleni bydd yr Athro David Bewley-Taylor, Cyfarwyddwr yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO) ac Athro Cysylltiadau Rhyngwladol a Pholisi Cyhoeddus Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn trafod materion polisïau cyffuriau byd-eang ar ddydd Mercher, 19 Chwefror.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys dangos rhaglen ddogfen, “Raw Opium: Pain, Pleasure, Profits”, wedi'i dilyn gan drafodaeth panel a sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa ynghylch The Dilemmas of Drug Policy: Global to Local, wedi'i chadeirio gan yr Athro Julia Buxton, Uwch Swyddog Ymchwil ac Athro Gwleidyddiaeth Gymharol GDPO, Ysgol Polisi Cyhoeddus Prifysgol Ganolog Ewrop, Bwdapest.

Bydd y panel yn cynnwys y Farwnes Molly Meacher, Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ddiwygio Polisi Cyffuriau; Ifor Glyn, Prif Weithredwr SANDS CYMRU; a Mike Trace, Prif WeithredwrYmddiriedolaeth Adsefydlu Carcharorion sy'n Gaeth (RAPt), Cadeirydd grŵp llywio'r Consortiwm Polisi Cyffuriau Rhyngwladol (IDPC) a Chyn-ddirprwy Gydlynydd Gwrthgyffuriau'r DU.

Ar ddydd Iau, 20 Chwefror, mewn darlith yn dwyn y teitl Online Grooming: Communicative Stages and Paedophile Profiles‌, bydd yr Athro Nuria Lorenzo-Dus o Adran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a Dr Cristina Izura, sy'n seicolegydd arbenigol â diddordeb mewn ymchwil prosesau iaith a gwybyddol, o Adran Seicoleg Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn trafod sut maent, drwy Ganolfan Ymchwil Iaith y Brifysgol, wedi dod ag arbenigeddau seicoleg gwybyddol ac ieithyddiaeth at ei gilydd i ddatblygu proffil cyfathrebol o reibwyr rhywiol ar-lein.

Bydd yr Ŵyl yn dod i ben gyda thair darlith gyhoeddus ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror:

Mewn darlith yn dwyn y teitl A Mathematical Meditation on the Circle, bydd Dr Jeff Giansiracusa, cymrawd ymchwil a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn yr Adran Fathemateg yn y Coleg Gwyddoniaeth, yn ystyried sut y gall symlrwydd cylch – y ffigwr geometrig puraf a symlaf – guddio cyfoeth aruthrol o syniadau pwerus.

Bydd yn dilyn y cylch drwy gelf, gwyddoniaeth a mathemateg ar daith annisgwyl a fydd yn mynd â'r gynulleidfa o hynafiaeth i feddygaeth fodern a pheirianneg, ac yn y pen draw i fyd haniaethol topoleg a dimensiynau ychwanegol.

Yn y ddarlith ‌Poetry of Memoir: Testimonial of a Female Holocaust Survivor, bydd Frances Rapport, Athro Ymchwil Iechyd Ansoddol yn y Coleg Meddygaeth, yn cyflwyno bywyd Anka Bergman, a oroesodd yr holocost ac a ddaeth i fyw yng Nghymru ar ôl y rhyfel.

Bydd yr Athro Rapport, awdur y llyfr Fragments: Transcribing the Holocaust, yn dadlau bod barddoniaeth yn cynnig golwg freintiedig o dystiolaethau goroeswyr yr holocost i ddarllenwyr a gwrandawyr.

Hefyd, bydd Dr Richard Johnston, uwch ddarlithydd yng Nghanolfan Ymchwil Deunyddiau y Coleg Peirianneg a Chymrawd Cyfryngau Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain (yn Nature), yn datgelu sut y gall gwyddoniaeth a pheirianneg egluro uwchbwerau nifer o uwcharwyr MARVEL, yn y ddarlith MARVELlous Materials: Superheroes and Science.

Meddai Andrea Buck, trefnydd yr Ŵyl, "Yn ein trydedd Ŵyl Ymchwil mae'r pwyslais ar wneud gwyddoniaeth yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn ddifyr, gan gysylltu â'r gynulleidfa, a bydd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau sy'n addas i oedolion ifanc a darpar wyddonwyr.

"Ein nod yw dathlu amrywiaeth a chyrhaeddiad ymchwil y Brifysgol yn gyhoeddus o ran ei chysylltiadau â'r gymuned leol a'r ddinas, ac effeithiau ehangach ymchwil y Brifysgol, y mae llawer o'r gwaith hwnnw yn bwysig ar raddfa fyd-eang."