Dros 150 o ddisgyblion Cymraeg ail-iaith yn mynychu cwrs undydd Academi Hywel Teifi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddar, cafodd dros 150 o ddisgyblion Cymraeg ail-iaith Uwch Gyfrannol a Safon Uwch y cyfle i fynychu cwrs undydd a drefnwyd gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

Nod y diwrnod oedd rhoi cyfle i’r disgyblion, a ddaeth o dros 14 o ysgolion ddod i adnabod dysgwyr ifainc eraill, ymarfer y Gymraeg y tu allan i'r dosbarth a dysgu mwy am Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd y disgyblion groeso gan yr Archdderwydd, yr Athro Christine James, cyn iddynt gychwyn ar drafodaeth am y ddrama ‘Siwan’, yng nghwmni’r Prifardd, yr Athro Tudur Hallam, a chael cyfle i ddysgu mwy am gymeriadau’r ffilm Hedd Wyn.

Ioan KiddWedi hynny, cafwyd perfformiad ‘Dynes a Hanner’ gan Llio Silyn a Rhian Morgan, a chafodd y disgyblion gyfle i sgwrsio gyda’r awdur arobryn, Ioan Kidd (chwith), am ei straeon ‘Yr Ymwelydd’ ac ‘Angladd yn y Wlad’, cyn ymgymryd mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r awdur. Yn gynharach eleni, enwyd ‘Dewis’ gan Ioan Kidd, fel Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2014.

I gloi’r diwrnod, cafodd y disgyblion flas ar fywyd y brifysgol wrth sgwrsio gyda rhai o fyfyrwyr Academi Hywel Teifi, a chael taith ar hyd y campws glan môr godidog.

Meddai Dr Rhian Jones, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, a chydlynydd y cwrs undydd:

“Mae gan adran y Gymraeg enw gwych am safon ei dysgu: mae'n adran glos a chyfeillgar sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith.  Ymhlith y staff y mae tri Phrifardd, Archdderwydd ac enillwyr yng nghystadlaethau Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru.  Byddai'n braf gallu croesawu rhai o'r disgyblion yn ôl i Abertawe fel myfyrwyr gradd yn y dyfodol agos er mwyn iddynt fwynhau'r arlwy arbennig sy'n cael ei chynnig yma”.