Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Trefnir y digwyddiad hwn gan Nod Cymru Deorfa Rithwir Genedlaethol Cisco (NVI Cymru), sy'n rhan o rwydwaith rithwir y DU sy'n torri tir newydd, wedi'i leoli yn ehi2 yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe.
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2014
Amser: 12:00pm-2:10pm
Lleoliad: ILS 2, Prifysgol Abertawe
Cost: Digwyddiad am ddim
Cofrestru: http://www.eventbrite.co.uk/e/3d-printing-in-healthcare-tickets-13774811833
Defnyddir argraffu 3D mewn technoleg ar gyfer peirianneg foduro, peirianneg awyrofod, adeiladu, pensaernïaeth, bwyd a ffasiwn. Mewn meddygaeth, mae technoleg 3D wedi agor galluoedd newydd a chyffrous ar gyfer addasu mewn amrywiaeth eang o gymwysiadau, ac fe'i defnyddir fwyfwy mewn prostheteg, dyfeisiau meddygol a meinweoedd dynol.
Mae adroddiad newydd gan Vision Gain yn rhagweld y bydd y farchnad fyd-eang ar gyfer argraffu 3D yn y diwydiant gofal iechyd werth $4,043 miliwn yn 2018.
Bydd y digwyddiad Rhwydwaith Deorfa Rithwir Genedlaethol (NVI) hwn yn dod ag academyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Gymru a Birmingham at ei gilydd i rannu craffter ac arbenigedd mewn Argraffu 3D mewn Gofal Iechyd.
Ymunwch â ni yn y seminar amser cinio hwn a drefnwyd gan y Rhwydwaith NVI. Mae'r digwyddiad am ddim, ond mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol.
Amserlen:
12:00pm:
Cofrestriadau'r nod lleol, rhwydweithio (a bwffe)
12:20pm:
Croeso
12:20pm:
Effective Design for 3D-Printed Surgical Devices in the UK: the PDR Experience.
Siaradwyr: Sean Peel, Dr Dominic Eggbeer a Ffion O’Malley, PDR.
HOLI AC ATEB
1:10pm:
3D-Bioprinting Calcium Phosphate Composites for Trabecular Orthopaedic System Reconstruction
Siaradwr: Dr Dan Thomas, Prifysgol Abertawe.
HOLI AC ATEB
1:35pm:
Printing Planes, Cars, and Houses
Siaradwr: Professor Moataz Attallah, Prifysgol Birmingham
HOLI AC ATEB
2:00pm:
Diwedd y digwyddiad.
Mae hwn yn ddigwyddiad NVI Cymru Cisco, gyda siaradwyr gwadd a chynulleidfaoedd byw yn Nodau NVI, gan gynnwys: Innovation Birmingham a Phrifysgol Abertawe.
- Dydd Mawrth 21 Hydref 2014 01.00 BST
- Dydd Mawrth 21 Hydref 2014 16.46 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295949