Darlithydd yn gobeithio y bydd statws newydd yn diogelu’r cyhoedd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae darlithydd o Brifysgol Abertawe wedi dod yn un o’r ffisiolegwyr cardiaidd cyntaf yng Nghymru i gofrestru’n Wyddonydd Clinigol gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd (HCPC).

Emma Rees

Mae Emma Rees, sy’n ddarlithydd mewn cardioleg yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe, wedi’i derbyn ar gofrestr Gwyddonwyr Clinigol y Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd ac mae’n gobeithio y bydd ffisiolegwyr cardiaidd eraill yn gweithio tuag at gofrestru er mwyn ceisio sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd yn rheoleiddiwr sydd â’r dasg o ddiogelu’r cyhoedd. I wneud hyn, maent yn cadw cofrestr o weithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n cwrdd â safonau uchel o ran hyfforddiant, sgiliau proffesiynol ac ymddygiad. Dim ond y rhai hynny sydd ar y gofrestr sy’n gallu defnyddio’r teitl proffesiynol Gwyddonydd Clinigol a gall aelodau’r cyhoedd wirio a yw Gwyddonydd Clinigol sy’n ymwneud â’u gofal wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd.

Mae ffisiolegwyr cardiaidd yn gweithio gyda chleifion a chanddynt glefyd y galon neu y tybir eu bod yn dioddef o glefyd y galon. Mae eu rôl yn cynnwys cynnal profion cardiaidd, rhoi barn am swyddogaeth y galon ac adrodd eu canfyddiadau wrth feddyg a fydd yn penderfynu sut i drin claf ar sail canlyniadau’r profion. Mewn rhai achosion, bydd y rhai hynny sy’n gweithio ar y lefelau uchaf yn arwain clinig lle y bydd ganddynt gyfrifoldeb llawn am ofalu am gleifion a diagnosio abnormaleddau. Er gwaethaf cyfrifoldeb sylweddol y rôl hon, ac ymgyrchoedd cyson gan y proffesiwn, ni fu modd i ffisiolegwyr cardiaidd gofrestru o’r blaen â chorff rheoleiddio yn yr un modd â meddygon a nyrsys. 

Fodd bynnag, mae newidiadau diweddar yn fframwaith yr yrfa a sefydlu’r Academi Gwyddorau Gofal Iechyd wedi arwain at lwybr newydd sy’n caniatáu i ffisiolegwyr cardiaidd sy’n gweithio ar lefel gwyddonydd gael mynediad at gofrestr y Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd. Roedd Emma’n rhan o brosiect peilot gan Lywodraeth Cymru a ddyluniwyd i brofi’r llwybr newydd hwn.

Meddai Emma: ‘Rwyf wrth fy modd fod modd i ffisiolegwyr cardiaidd sy’n gweithio ar lefel gwyddonydd gael mynediad o’r diwedd at gofrestr statudol. Bydd hyn yn sicrhau’r safonau gorau mewn gofal gan y bydd modd i gleifion nad ydynt yn fodlon ar ymddygiad neu sgiliau Gwyddonydd Clinigol cofrestredig godi eu pryderon gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd a fydd yn gallu cymryd camau gweithredu priodol i atal yr unigolyn rhag ymarfer os bydd angen. Mae hwn yn gam pwysig iawn ar gyfer y proffesiwn yng Nghymru a gweddill y DU ac rwy’n gobeithio y caiff llawer mwy o ffisiolegwyr cardiaidd eu hysbrydoli i weithio tuag at gofrestru.’