Cyhoeddi Sgwad Farsity

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, cyhoeddwyd sgwad tîm rygbi Prifysgol Abertawe a fydd yn chwarae yng ngêm rygbi Farsity yn Stadiwm y Mileniwm ar Ebrill 9.

Mae’r sgwad yn cynnwys chwaraewyr profiadol sydd eisoes wedi ennill yng ngemau rygbi Farsity. Mae’r sgwad yn cynnwys pedwar chwaraewr bu’n cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20, a dau chwaraewr rygbi saith pob ochr Cymru.

Meddai Richard Lancaster, prif hyfforddwr y tîm: “Dwi’n hapus iawn gyda’r tîm eleni, mae cydbwysedd da yn y sgwad, a llawer o brofiad gyda dros 60% ohonynt yn chwarae’n rheolaidd  ym Mhencampwriaeth Cymru”. 

“Rydym wedi bod y gweithio’n galed iawn dros yr wythnosau diwethaf wrth baratoi ar gyfer y gêm,  ond nawr ein bod ni wedi cyhoeddi’r sgwad, byddwn yn gweithio’n galetach fyth dros yr wythnosau nesaf. Mae dros 10,000 o docynnau eisoes wedi cael eu gwerthu, felly dwi’n sicr y bydd hi’n gêm arbennig o dda.”

Propiau
Tom Kaijaks
Sean McDonnell-Roberts
Luke Myatt
Saman Rezapour
Nicky Thomas

Bachwyr
Tom Ball
Rhodri Clancy

Ail reng
Jon Barley
Rory Thornton
Josh Walker

Rheng ôl
Lewis Burley
Adam Scanlon
Arun Thompson
Jack Perkins
Reuben Tucker

Olwyr
Shaun Clarke
Josh Guy
Connor Lloyd
Ollie Jenner
Jack Shields
Will Thomas

Canolwyr
David Evans
Jedd Evans
Matthew Jenkins
Sam Soul
Josh Bartlett

Asgellwyr
Andrew Claypole
Ashley Evans
Hugo Jafari
Will Lewis
Elliott Jones

Cefnogir y tîm gan eu prif noddwyr, St.Modwen. Meddai’r Is-ganghellor, Yr Athro Richard B. Davies: “Y gêm Farsity yw un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous yng nghalendr y brifysgol, ac mae’n rhan o’r profiad arbennig rydym yn cynnig i’n myfyrwyr yma yn Abertawe.

Mae nifer o fyfyrwyr yn cystadlu yn y digwyddiad unigryw hwn, ac mae llawer mwy yn teithio i’r Stadiwm i gynnig eu cefnogaeth i’r timoedd sy’n cystadlu.

"St Modwen yw ein partneriaid allweddol wrth ddatblygu ein Campws y Bae newydd, a fydd yn gwella profiad y myfyrwyr ymhellach drwy ddarparu lle o'r radd flaenaf ar gyfer addysgu a dysgu. Mae'n newyddion gwych eu bod nhw hefyd yn bartneriaid i’r Farsity hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at lwyddiant pellach ar ac oddi ar y cae. "

Dywedodd Rupert Joseland, Cyfarwyddwr Rhanbarthol St Modwen (Cymru): "St Modwen, arbenigwr adfywio mwyaf blaenllaw'r DU, yw datblygwr Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi sydd werth £450 miliwn, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r brifysgol a'i 15,000 o fyfyrwyr, fel noddwr swyddogol Her Farsity Cymru 2014."

Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y gêm o wefan Undeb y Myfyrwyr, neu o Fulton Outfitters yn Nhŷ Fulton. 

Varsity squadLlun:- O’r chwith: Yr Athro Richard B Davies,  Elliott Jones - Capten Rygbi Abertawe, a Rupert Joseland o St. Modwen