Cyhoeddi amserlen Pencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae amserlen cystadlaethau Pencampwriaeth Athletau Ewropeaidd 2014 yr IPC a gynhelir yn Abertawe dros yr haf wedi cael ei gyhoeddi.

Caiff y bencampwriaeth ei chynnal ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe rhwng 18 a 23 Awst.

Swansea 2014 championship mark Bydd chwe chant o  athletwyr o dros 40 o wledydd yn cystadlu am 199 o fedalau aur.

‌Bydd sesiynau boreol rhwng 9am ac 1pm ar gyfer digwyddiad para-chwaraeon mwyaf Cymru erioed yn cynnwys cymysgedd o ragbrofion a rowndiau terfynol. Bydd sesiynau prynhawn rhwng 3.30pm a 7.30pm yn cynnwys rowndiau terfynol a rhai rowndiau cynderfynol.

Mae tocynnau ar gael ar-lein yn www.abertawe2014.com ac o leoedd fel Canolfan Croeso Dinas Abertawe ar Stryd Plymouth a Chanolfan Hamdden Penyrheol.

‌Ceir amserlen lawn y cystadlaethau yn http://www.paralympic.org/swansea-2014/schedule ond gallai newid wrth aros am geisiadau cystadlu terfynol.

Dyma rai o uchafbwyntiau'r amserlen:

Dydd Mawrth 19 Awst (44 o gystadlaethau am fedal)

* Ras 100m T44 i Ddynion – Jonnie Peacock o Brydain Fawr yw'r pencampwr Paralympaidd yn y digwyddiad hwn

* Ras 100m T44 i Fenywod – a allai gynnwys athletwraig Baralympaidd gyflymaf y byd, Marlou van Rhijn o'r Iseldiroedd, a'i gwrthwynebydd mawr, Marie-Amélie Le Fur o Ffrainc

* Ras 100m T34 i Fenywod – Hannah Cockroft o Brydain Fawr sydd wedi bod drechaf yn y ras hon yn y blynyddoedd diwethaf

* Ras 100m T42 i Ddynion – all pencampwr y byd a'r pencampwr Paralympaidd, Heinrich Popow o'r Almaen, gadw ei deitl Ewropeaidd?

* Taflu'r Ddisgen F52 i Fenywod – enillodd yr athletwr Paralympaidd Josie Pearson o Gymru y fedal aur yn y digwyddiad yn Llundain 2012 a Phencampwriaeth y Byd y llynedd

* Ras 100m T37 i Fenywod – roedd Mandy François-Elie o Ffrainc ar ei gorau y llynedd gan ennill teitlau'r byd yn y ras 100m a'r ras 200m

Dydd Mercher 20 Awst (44 o gystadlaethau am fedal)

* Ras 1,500 T54 i Ddynion – gallai David Weir, pencampwr Paralympaidd Prydain Fawr dros y pellter hwn, wynebu pencampwr presennol y byd, Marcel Hug o'r Swistir, mewn ras a allai fod yn wefreiddiol iawn

* Taflu'r Clwb F51 i Fenywod – Josie Pearson o Gymru yw medalydd efydd y byd ar hyn o bryd

* Ras 100m T13 i Ddynion – mae Jason Smyth o Iwerddon yn dal record y byd am gwblhau'r ras mewn 10.46 o eiliadau

* Ras 100m T8 i Fenywod – a hithau ond yn 16 oed, daeth Sophie Hahn i'r amlwg pan gipiodd hi deitl y byd y llynedd

Dydd Iau 21 Awst (38 o gystadlaethau am fedal)

* Ras 200m T42 i Ddynion – Richard Whitehead o Brydain yw'r pencampwr Paralympaidd, pencampwr y byd a'r pencampwr Ewropeaidd ar hyn o bryd, ac fe hefyd sy'n dal record y byd

* Taflu'r Maen F42 i Ddynion – enillodd Aled Siôn Davies, a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y fedal aur yn y digwyddiad hwn ym Mhencampwriaeth y Byd 2013

* Ras 200m T12 i Fenywod – mae'n bosib y bydd pencampwr y byd, Oksana Bondarchuk (Masters) o'r Wcrain, a'r medalydd arian o Brydain, Libby Clegg, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd unwaith eto

* Ras 800m T54 i Fenywod – gall medalwyr arian ac efydd y byd o'r Swistir, Manuela Schär ac Edith Wolf-Hunkeler, wynebu cystadleuaeth gref gan Jade Jones a Shelly Woods o Brydain.

* Ras 200m T36 i Ddynion – gallai Evgeny Shvetsov o Rwsia fod y dyn i'w guro. Gorffennodd Rwsia ar frig tabl y medalau ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd

Dydd Gwener 22 Awst (40 o gystadlaethau am fedal)

* Taflu'r Ddisgen F44 i Ddynion – mae'n bosibilrwydd mawr y gallai Dan Greaves o Brydain, y pencampwr Paralympaidd a medalydd arian y byd presennol, gipio'r fedal aur

* Ras 800m T34 i Fenywod – pellter newydd a gaiff ei gynnwys yn Rio 2016 a bydd Hannah Cockroft yn ceisio ennill y fedal aur yn y ras

* Naid Hir T44 i Fenywod - bydd Marie-Amélie Le Fur o Ffrainc a Stef Reid o Brydain Fawr yn gobeithio cystadlu yn erbyn pencampwr y byd, Iris Pruysen o'r Iseldiroedd

* Ras 200m T54 i Ddynion – bydd yn gystadleuaeth ffyrnig os bydd pencampwr y byd, Kenny van Weeghel o'r Iseldiroedd, a Leo-Pekka Tähti o'r Ffindir, yn brwydro'n erbyn ei gilydd

Dydd Sadwrn 23 Awst (33 o gystadlaethau am fedal)

* Ras 5,000m T54 i Ddynion – yn debygol o fod yr olaf o sawl brwydr yn Abertawe rhwng Weir a Hug

* Taflu'r Ddisgen F42 i Ddynion – bydd Davies yn gobeithio ychwanegu'r teitl Ewropeaidd at y medalau aur a enillodd yn Llundain 2012 a Lyon 2013

* Taflu'r Maen F53 i Fenywod – mae'n bosib y bydd Svitlana Stetsyuk o'r Wcrain, sy'n dal y record Ewropeaidd, yn herio Deirdre Mongan o Iwerddon

* Rasau Cyfnewid – beth bynnag y bo'r dosbarthiad, mae'r rasau cyfnewid ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth bob amser yn wefreiddiol i'w gwylio

Cynhelir y digwyddiad gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Chwaraeon Anabledd Cymru, British Athletics, Athletau Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Am wybodaeth bellach am Bencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe, ewch i: www.swansea2014.com