Cyhoeddiad rhyngwladol yn cydnabod astudiaeth monitro meddyginiaethau a arweinir gan nyrsys sy’n gwella gofal cleifion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil pwysig gan Brifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd heddiw gan y cyfnodolyn ar-lein mawreddog PLOS ONE, wedi canfod y gall monitro cleifion mewn dull strwythuredig wella gofal.

Mae astudiaeth gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd â’r nod o leihau adweithiau anffafriol i gyffuriau mewn cleifion â phroblemau resbiradol, wedi canfod bod holiadur syml wedi helpu wrth adnabod problemau’n gysylltiedig â meddyginiaeth y mae modd eu hosgoi mewn 100% o’r rhai a gymerodd ran yn yr holiadur.

Defnyddiodd yr astudiaeth ‘holiadur’ o’r enw Proffil Adweithiau Anffafriol i Gyffuriau ar gyfer Gorllewin Cymru (WWADR) i helpu nyrsys i flaenoriaethu a strwythuro’r broses o fonitro meddyginaeth er mwyn gwella iechyd cleifion. Mewn hap-dreial wedi’i reoli o 54 o gleifion, derbyniodd 28 eu gofal nyrsio arferol, ac ymatebodd 26 i’r proffil WWADR yn ogystal â’u gofal arferol. Pan ychwanegwyd yr holiadur at ofal sylfaenol, ar gyfartaledd, aethpwyd i’r afael â 2 broblem ychwanegol i bob claf. Heb yr holiadur, ni chafwyd newid yn nifer y problemau yr aethpwyd i’r afael â hwy.

Cynorthwyodd y proffil y nyrsys i wneud atgyfeiriadau i weithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill a chyfeirio at ffynonellau eraill o gyngor ar gyfer heintiau tybiedig, y llindag geneuol, cwympiadau, problemau wrinol, brechiadau a gofal deintyddol.

Meddai Chris Mulholland, Pennaeth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru:

“Mae’r astudiaeth hon wedi dangos y gellir llyfnhau problemau’n gynnar trwy helpu pobl i ddeall eu meddyginiaethau’n well. Heb os bydd hyn yn ei dro’n stopio problemau rhag gwaethygu sydd yn fuddugoliaeth: buddugoliaeth i’r claf ac i’r gwasanaeth iechyd.”

Meddai Marie Gabe, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Abertawe a gynhaliodd yr ymchwil:

“Mae helpu cleifion i gael y gorau o’u meddyginiaeth yn rhan bwysig o ofal cleifion. Gall fod yn anodd disgwyl i gleifion a nyrsys adnabod yn ddigymell y problemau sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth.   

“Rwyf wrth fy modd fod PLOS ONE wedi penderfynu cyhoeddi’r astudiaeth fel y bydd modd i bobl eraill ddefnyddio’r proffil ‘holiadur’ i helpu nyrsys i fonitro meddyginaeth i wella iechyd cleifion.

"Rwyf wir yn falch o’r ffordd y mae’r broses o fonitro meddyginiaeth wedi gweithio mewn ymarfer a hoffwn ddiolch i Brifysgol Abertawe, yr uned treialon clinigol leol, a’r holl academyddion, y clinigwyr a’r cleifion a wirfoddolodd eu hamser yn hael i’r astudiaeth hon.  Rwyf yn ddiolchgar i Gydweithrediad Cynyddu Gallu Ymchwil Cymru (RCBC Cymru) ac Ysgol Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol (WSPCR) am eu cymorth.”

Ceir y papur PLOS ONE yn  http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0096682 .

  • Teitl y papur sydd ar gael ar PLOS ONE yw:‘Medication monitoring in a nurse-led respiratory outpatient clinic: pragmatic randomised trial of the West Wales Adverse Drug Reaction Profile.’ Awduron:Marie E. Gabe, Fiona Murphy, Gwyneth A. Davies, Ian T. Russell, a Susan Jordan* .
  •  Am ragor o wybodaeth am Goleg y Gywddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe ewch i: http://www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences