Cyfrol newydd yr Athro Alan Llwyd yn datgelu cerddi newydd Waldo

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904 – 1971, cyfrol newydd yr Athro Alan Llwyd, Athro’r Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, yn mynd dan groen un o feirdd enwocaf Cymru, ac yn cyflwyno cerddi newydd-ddarganfyddedig o waith Waldo

AlanLlwydNid bardd yn unig oedd Waldo Williams, ond heddychwr ac ymgyrchwr, brawdgarwr a brogarwr, cenedlaetholwr a doniolwr. “Yr egwyddor o frawdoliaeth oedd y gwaed yn ei wythiennau, y mêr yn ei esgyrn, yr anadl yn ei ysgyfaint,” meddai’r Athro Llwyd. “Roedd Waldo yn Gymro mawr, yn ddyn mawr ac yn fardd mawr.”

Trwy gyfuno ei ymchwil wreiddiol ef ei hun â’r defnyddiau amhrisiadwy a gafodd gan aelodau o deulu Waldo, ei nai David Williams yn anad neb, y mae awdur y cofiant hwn yn bwrw llawer o oleuni newydd ar Waldo’r bardd ac ar ei gerddi, ac ar Waldo’r dyn yn ogystal.

Yn ychwanegol at hyn, cyflwynir a thrafodir cerddi newydd-ddarganfyddedig o waith Waldo, cerddi a ddarganfuwyd gan yr Athro Llwyd a Robert Rhys, Ddarllenydd yn y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, wrth i’r ddau gydweithio ar y gyfrol Waldo Williams: Cerddi 1922–1970.

 Meddai’r Athro Llwyd: “Antur fawr i mi oedd llunio'r cofiant hwn”.

“Credaf i mi ddod i adnabod Waldo a'i deulu rhyfeddol yn dda yn ystod cyfnod yr ymchwilio a'r ysgrifennu.

Waldo Williams“Gwefr oedd darganfod ffeithiau newydd am ei fywyd a gwefr oedd dod o hyd i gerddi ‘newydd’ o'i waith, cerddi na welsant olau dydd erioed o'r blaen, a'r cyfan yn bwrw goleuni newydd ar ei gerddi mwyaf adnabyddus. Rwy'n gobeithio fod y cofiant wedi llwyddo i gyfleu holl fawredd a holl amlochredd ei bersonoliaeth, ac y bydd yn gyfrwng i agor trafodaethau newydd ar Waldo a'i waith".

Dyma’r trydydd mewn pedwarawd o gofiannau gan yr Athro Alan Llwyd. Eisoes cyhoeddwyd Kate: Cofiant Kate Roberts 1891–1985 a Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884–1956, llyfr a enillodd y categori ffeithiol-greadigol yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2014. Cyhoeddir yr olaf o’r pedwarawd, Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones 1899–1968, yn 2015.

 Cyhoeddir Waldo Williams - Cerddi 1922-1970 (Gwasg Gomer) gan yr Athro Alan Llwyd a Robert Rhys ym mis Hydref 2014.