Cyfnodolyn EMM yn amlygu Abertawe fel arweinydd byd-eang ym maes profion diogelwch cyn-glinigol cyffuriau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dr George Johnson o Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yw prif awdur papur ymchwil a ddewiswyd fel 'Dewis y Golygydd' i ymddangos ar flaen rhifyn mis hwn cyfnodolyn y Gymdeithas Genomeg a Mwtagenesis Amgylcheddol, Environmental and Molecular Mutagenesis (EMM).

Teitl y papur pwysig hwn yw Derivation of Point of Departure (PoD) Estimates in Genetic Toxicology Studies and Their Potential Applications in Risk Assessment. Mae'n adrodd ar ganlyniad astudiaeth ryngwladol gydweithiol fawr, a arweiniwyd gan Dr Johnson, Athro Cyswllt Geneteg ac aelod o Grŵp Ymchwil Difrod DNA y Coleg, a fwriadwyd i gryfhau penderfyniadau rheoleiddiol drwy sefydlu sut y gellir defnyddio data gwenwyneg enynnol i osod cyfyngiadau rheoleiddiol ar ddatguddiadau cemegol.

Mae Prifysgol Abertawe yn adnabyddus yn fyd-eang am Wenwyneg Enynnol, neu gallu sylweddau neu gyfryngau ffisegol i ddifrodi DNA celloedd, a allai arwain at fwtadiadau sy'n cynyddu tebygolrwydd o glefydau megis canser.

Dr George JohnsonMae'r anrhydedd gan y Gymdeithas Genomeg a Mwtagenesis Amgylcheddol yn cydnabod Dr Johnson fel arbenigwr rhyngwladol yn y maes, ac amlyga Grŵp Difrod DNA a Sefydliad Gwyddor Bywyd Abertawe fel arweinwyr rhyngwladol ym maes profion diogelwch cyn-glinigol cyffuriau a sylweddau eraill y caiff y cyhoedd eu datguddio iddynt.

Meddai Dr Johnson, "Bu'n fraint arwain y grŵp hwn o arbenigwyr rhyngwladol o gyrff rheoleiddio llywodraethol, diwydiant a'r byd academaidd i ysgrifennu'r papur hwn, y mae eisoes yn cael ei ddefnyddio i wella asesiadau risg iechyd dynol o sylweddau carsinogenig posib."

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe, "Mae gwenwyneg enynnol yn gryfder ymchwil cynyddol yn y Coleg Meddygaeth. Mae'r papur hwn gan George a'i gydweithwyr yn enghraifft o'n dull yma yn Abertawe o ddefnyddio ymchwil sylfaenol er budd iechyd a lles."

Mae adnabod Pwynt Gadael (PoD) o fewn ymateb dos cemegol yn arfer safonol wrth asesu risgiau sy'n gysylltiedig â chemegau gwenwynig.

Defnyddir PoD i allosod o'r ymateb mesuredig mewn system brofi i lefelau is arferol datguddiadau dynol, y mae'n gam angenrheidiol wrth osod lefel gemegol sy'n achosi risg derbyniol i bobl. Yn draddodiadol, nid oedd y dull hwn yn gymwys ar gyfer cemegau y maent yn difrodi DNA.

Fel arfer defnyddir profion sy'n mesur mwtadiad neu ddifrod DNA i bennu p'un ai bod cemegyn yn wenwynig ai peidio, sy'n ddosbarthiad sy'n peri ymagwedd allosod geidwadol at amcangyfrif risg.

Yn fwy diweddar mae tystiolaeth arbrofol a dealltwriaeth fiolegol yn awgrymu nad yw'r dull allosod diofyn yn gyfiawn bob amser. Ond, mae angen data anorchfygol am berfformiad dulliau gwahanol i gyfiawnhau newid yr arfer hirsefydlog ac amddiffynnol hwn.

Gyda nawdd Grŵp Gwaith Dadansoddi Meintiol y Pwyllgor Technegol Gwenwyneg Enynnol (HESI/ISLI), ceisiodd y grŵp hwn o awduron fynd ati'n systematig i werthuso dulliau ystadegol gwahanol ar gyfer adnabod PoD o ddata gwenwyneg enynnol.

Casglodd a dadansoddodd Dr Johnson a'i gyd-awduron 45 set ddata o astudiaethau a ddadansoddodd ysgogiad mwtadiad genynnau neu ddifrodi DNA (ffurfiant microniwclews) a achosir gan ddau fodel mwtagenau (1-ethyl-1-nitrosourea neu 1-methyl-1-nitrosourea).

Gwerthusont berfformiad pedwar dull ystadegol gwahanol o gyfrifo PoD, gan ddod i'r casgliad mai dull dos meincnod yw'r mwyaf defnyddiol ar gyfer dadansoddi data gwenwyneg enynnol parhaus.

Yn ogystal, nododd eu dadansoddiad agweddau ar ddyluniad astudio gwenwyneg enynnol y maent yn angenrheidiol ar gyfer pennu PoD yn gywir.

Mae'r erthygl yn cynnwys craffu a nifer o argymhellion pwysig eraill i ymchwilwyr yn y maes. Yn olaf, disgrifia'r erthygl fod y Grŵp Gwaith Dadansoddi Meintiol yn argymell y gellir defnyddio'r fethodoleg i osod cyfyngiadau rheoleiddiol ar gemegau gwenwynig yn y dyfodol.

Mae copi o “Derivation of Point of Departure (PoD) Estimates in Genetic Toxicology Studies and Their Potential Applications in Risk Assessment" gan George E. Johnson, Lya G. Soeteman-Hernandez, B. Bhaskar Gollapudi, Owen G. Bodger, Kerry L. Dearfield, Robert H. Heflich, J. Gregory Hixon, David Pl. Lovell, James T. MacGregor, Lynn H. Pottenger, Chad M. Thompson, Liz Abraham, Veronique Thybaud, Jennifer Y. Tanir, Errol Zeiger, Jan van Benthem, a Paul A. White ar gael yn http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/em.21870/pdf.