Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Digwyddiadau a drefnwyd gan Ddeorfa Rithwir Genedlaethol (NVI) Cymru, ehi2, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe.
Dyddiad: Dydd Iau 2 Hydref / Dydd Iau 9 Hydref 2014
Amser: 1pm-4pm
Lleoliad: ILS 2, Prifysgol Abertawe
Cost: Am ddim
A yw meddwl am ffurflen dreth a TAW yn rhoi pen tost i chi? A yw beth y gallwch ei hawlio a beth na allwch ei hawlio yn eich drysu?
Bydd y sesiynau cyfrifeg un i un hyn gan NVI Cymru'n rhoi cyngor ac arweiniad am ddim i'ch busnes ar ofynion treth, TAW a Thalu Wrth Ennill (PAYE).
Gall y sesiwn gynnig cyngor ar amrywiaeth eang o faterion treth, gan gynnwys:
- Dechrau busnes
- Treth hunangyflogaeth
- Talu Wrth Ennill
- Treth gyflogaeth
- Ffurflen dreth
- Corffori busnes – manteision o ran treth
- Opsiynau TAW busnesau llai
Cynhelir y clinig cyngor hwn ar gyfer BBaChau a busnesau newydd y gwyddorau bywyd a TGCh gan Alison Vickers o Bevan & Buckland (Cyfrifwyr Siartredig).
Mae Alison yn bartner archwilio ac yn gofalu am ystod eang o gleientiaid BBaCh, gan eu helpu i leihau risgiau a chwilio am gyfleoedd i wella'u systemau a'u proffidioldeb.
- Dydd Iau 18 Medi 2014 01.00 BST
- Dydd Mercher 11 Medi 2019 10.05 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049