Canolfan Ragoriaeth newydd y Brifysgol yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio Canolfan Ragoriaeth Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy rithwir newydd, a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd.

Rhoddodd David Morris, Dirprwy Bennaeth Strategaeth Bwyd, Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Chefn Gwlad Llywodraeth Cymru, araith gyweirnod ar y pwnc 'Gosod Blaenoriaethau a'r Cynllun Gweithredu yng Nghymru ar Fwyd ac Amaethyddiaeth' yn lansiad y Ganolfan yr wythnos hon yn Adeilad Sefydliad Gwyddor Bywyd 1.

Caiff y ganolfan rithwir, sy'n pontio Colegau Academaidd y Brifysgol a chyda meddygaeth a gwyddoniaeth wrth ei gwraidd, ei harwain gan yr arbenigwr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ar ddiogelwch bwyd a chynhyrchu dofednod, Tom Humphrey, Athro Bacterioleg a Diogelwch Bwyd Coleg Meddygaeth y Brifysgol.

‌‌Mae sefydlu'r ganolfan yn dangos ymroddiad cryf y Brifysgol i weithio gyda diwydiannau bwyd a ffermio Cymru i wella perfformiad economaidd drwy frwydro afiechydon yn well a chynnal ymchwil i danategu lles a dwysâd stoc bwyd cynaliadwy.

Nod y Ganolfan yw cefnogi'r broses datblygu gallu ymchwil Prifysgol Abertawe i danategu diogelwch bwyd a'r bioeconomi.

Meddai'r Athro Tom Humphrey, "Bydd creu'r ganolfan rithwir yn caniatáu i mi a'm cydweithwyr yn Abertawe weithio'n agos gyda'r diwydiannau bwyd ac amaethyddiaeth yng Nghymru a'r tu hwnt i wella cynaladwyedd, lles anifeiliaid a diogelwch bwyd."

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Rwy'n hynod falch y bydd Prifysgol Abertawe'n gartref i'r Ganolfan Ragoriaeth Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy.

"Fel prifysgol a arweinir gan ymchwil, rydym ar flaen y gad o ran datblygu datrysiadau i broblemau byd-eang. Bydd y Ganolfan hon yn dod ag ymchwilwyr ar draws disgyblaethau pwnc at ei gilydd i fynd i'r afael â her enbyd diogelwch bwyd."

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn:

  • Agored i'r holl randdeiliaid mewn sectorau diwydiant priodol a chyrff Llywodraeth Cymru;
  • Pwysleisio biowyddoniaeth sylfaenol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, wrth amlygu meysydd â phwysigrwydd newydd a chynyddol, megis dwysâd cynaliadwy amaethyddiaeth a chydnabod gallu cynyddol technolegau galluogi;
  • Ceisio ariannu gan asiantaethau llywodraeth y DU a diwydiant ar gyfer isadeiledd a phrosiectau ymchwil sy'n cynnal cymysgedd o ymchwil pur a chymhwysol;
  • Darparu llwyfan ar gyfer ymchwil ar y cyd â rhanddeiliaid yn niwydiannau Cymru;
  • Darparu llwyfan ar gyfer cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phrifysgolion eraill yng Nghymru, a chydweithwyr yn y DU, Ewrop a gweddill y byd;
  • Cynnig hyfforddiant i ddiwydiannau ar reoli clefydon;
  • Cynnal cyfarfodydd a symposia ar ddiogelwch bwyd sy'n agored i'r holl randdeiliaid perthnasol yng Nghymru a'r tu hwnt; a
  • Rhoi cyngor a chymorth ar ddiogelwch bwyd i Lywodraeth Cymru ac eraill.

Roedd siaradwyr yn y digwyddiad lansio'n cynnwys:

  • Yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor, a agorodd y digwyddiad;
  • Yr Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor, Datblygu Strategol a Pherthnasoedd Allanol, a oedd yn Gadeirydd;
  • Yr Athro Tom Humphrey, Athro Bacterioleg a Diogelwch Bwyd, Grŵp Microfioleg Feddygol a Chlefydau Heintus y Coleg Meddygaeth;
  • Andy Cureton, Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Biowyddorau;
  • Yr Athro Sarah O’Brien, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Diogelwch Microfiolegol Bwyd;
  • Yr Athro Guy Poppy, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, a Nina Purcell, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru;
  • Alec Kyriakides, Pennaeth Ansawdd Cynnyrch, Diogelwch a Pherfformiad Cyflenwyr, Sainsbury's Supermarkets Ltd.