Athrawon yng Nghymru’n yn derbyn hyfforddiant i’w rhoi ar y blaen gyda chwricwlwm TGAU Cyfrifiadura

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhaglen hyfforddi ddwys am ddim bellach ar waith sy’n rhoi cyfle i athrawon ddysgu am gysyniadau allweddol cyfrifiadureg i’w helpu i ddarparu TGAU Cyfrifiadura yn effeithiol mewn ysgolion ar draws Cymru.

Technoteach

Mae Technoteach, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol ac a redir gan raglen Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhoi  datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) mewn Cyfrifiadureg i athrawon o ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r sesiynau sy’n uwchsgilio athrawon mewn Cyfrifiadureg, yn rhedeg am chwe wythnos, a’r tair wythnos gyntaf yn canolbwyntio ar raglennu ymarferol a’r tair olaf yn seiliedig ar addysgeg a sut y gall athrawon gymhwyso hyn yn yr ystafell ddosbarth. 

Gydag 20 o athrawon o ysgolion cynradd sydd eisoes wedi dilyn y rhaglen yn barod cyn y Nadolig, mae’r 2il garfan bellach ar waith gyda bron i 30 o athrawon uwchradd sydd wedi cofrestru o ar draws De Cymru. Mae’r sesiynau uwchradd yn canolbwyntio ar Python a Greenfoot, sydd ar hyn o bryd yn rhan o’r cwricwlwm TGAU Cyfrifiadura newydd, sydd ar lefel raglennu uwch.

Meddai Kate Stephens, Pennaeth TGCh yn Ysgol Gyfun Esgob Gore, a ddechreuodd y rhaglen chwe wythnos yn ddiweddar, ‘Buom yn aros am amser hir am rywbeth fel Technoteach i ddarparu sgiliau Cyfrifiadureg i athrawon mewn ysgolion uwchradd. Mae’n darparu cyfle ardderchog i athrawon TGCh ail-sgilio, ar gyfer llwybrau newydd y cwricwlwm TGCh/Cyfrifiadureg sy’n newid ac sydd wrthi ar hyn o bryd yn cael ei ailwampio yn yr holl feini prawf yng Nghymru ac yn wir yn Lloegr. Fel Pennaeth TGCh yn Ysgol Esgob Gore, dydw i ddim wedi ymhel â llawer o raglennu ers fy ngradd dros 12 mlynedd yn ôl ac ar ôl dim ond un sesiwn o Technoteach, rydw i bellach yn teimlo’n hyderus i ddysgu elfennau sylfaenol "Python" i ddisgyblion yn fy ysgol drwy Glybiau Techno amser cinio.  Rydw i eisoes wedi ysgrifennu rhai heriau cymhleth yn barod ers y sesiwn gyntaf yr wythnos hon, a byddaf yn eu defnyddio i ennyn diddordeb disgyblion Cyfnod Allweddol 3 a’u hysbrydoli i ddewis Cyfrifiadureg ar Gyfnod Allweddol 4! Roedd y gweithdai Technoteach ymarferol yn wych – wedi’u harwain yn dda a’u hesbonio’n drylwyr ac rydw i’n edrych ymlaen yn barod at ail sesiwn y cwrs 6 wythnos.

Ychwanegodd, ‘Byddwn yn argymell yn llawn Technoteach i athrawon TGCh eraill, hyd yn oed os yw e dim ond i adolygu eich sgiliau Cyfrifiadureg, rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol TGCh eraill a chreu adnoddau gwerthfawr heb eu hail i ennyn diddordeb ac ysbrydoli’ch disgyblion i’w hannog i wella eu dealltwriaeth o’r ddisgyblaeth Gyfrifiadureg.’

Meddai’r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Rhaglen Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Mae’r galw am ddarparu TGAU Cyfrifiadureg mewn ysgolion ar draws Cymru yn cynyddu ac mae prosiect Technoteach yn darparu hyfforddiant o safon i athrawon, gan eu harfogi â’r wybodaeth angenrheidiol i addysgu pobl ifanc sgiliau sylfaenol cyfrifiadura, y bydd eu hangen arnynt ar gyfer economi ddigidol y dyfodol.

Meddai Sarah Thomas, Pennaeth TG yn Ysgol Gyfun Emlyn, ‘Mae’r ysgol bob amser yn chwilio am gyrsiau a fyddai o ddiddordeb i ddisgyblion a phenderfynwyd eleni y byddwn yn cynnig TGAU cyfrifiadureg yn ogystal â TGAU TGCh. Mae aelodau staff yn yr adran wedi dysgu TGCh o’r blaen ac roedd angen cwrs hyfforddi diweddaru arnynt ar raglennu yn arbennig. Mae aelodau’r adran TGCh wedi mynychu digwyddiadau Technoteach eraill.  Mae digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn bwysig iawn achos hebddyn nhw ni fyddai modd i ni gynnig cyrsiau o’r math i’n disgyblion’. 

Cynhelir rhagor o sesiynau yn nes ymlaen eleni, felly os oes gan unrhyw athrawon cynradd neu uwchradd ddiddordeb, bydd digon o gyfle i gofrestru. Bydd angen i chi ymrwymo i fynychu’r cwrs llawn sy’n rhad ac am ddim a byddwn hefyd yn talu’ch costau athro cyflenwi hyd at £80 am y sesiwn gyntaf, 1-8pm.

Yn y llun:  Athrawon ysgolion uwchradd yn mynd i’r afael â Python a Greenfoot yn sesiwn Technoteach yr wythnos hon ym Mhrifysgol Abertawe.