Astudiaeth newydd yn dangos bod tadau am gymryd rhan fwy cefnogol o ran bwydo ar y fron

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe wedi datgelu y bydd tadau’n aml yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio ac yn ddiymadferth ar ôl genedigaeth eu babi pan ddaw i fwydo ar y fron, yn ogystal â theimlo nad oes ganddynt y wybodaeth na’r addysg fyddai’n eu helpu i gefnogi eu partner.

Baby

Mae awduron yr adroddiad, Dr Amy Brown a Dr Ruth Davies, o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd  yn y Brifysgol yn dweud bod eu hastudiaeth yn galonogol gan ei bod yn dangos bod gan dadau agwedd gadarnhaol tuag at fwydo ar y fron a’u bod eisiau gallu cefnogi’u partner.  Fodd bynnag, datgelodd yr astudiaeth hefyd fod llawer o dadau’n teimlo nad ydynt yn barod i wneud hyn a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio ar yr adeg hon ac felly’n teimlo’n ddiymadferth.

Gwnaeth yr astudiaeth edrych ar sampl o 117 o ddynion yr oedd eu partner wedi rhoi genedigaeth i blentyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi dechrau bwydo ar y fron adeg geni.  Datgelodd yr arolwg fod llawer o’r dynion am i’w babi gael ei fwydo ar y fron a’u bod yn teimlo’n gadarnhaol iawn pan oedd eu partner am wneud hynny. Fodd bynnag, er iddynt deimlo eu bod wedi’u hannog i fod yn rhan o’r addysg cyn geni arall, pan ddaeth i fwydo ar y fron, roeddent naill ai wedi derbyn ychydig iawn o wybodaeth neu roeddent wedi’u heithrio’n llwyr. Yn sgil hyn, roeddent yn teimlo’n ddiymadferth os oedd eu partner yn profi anawsterau wedi’r enedigaeth.  Gwnaeth un o’r cyfranogwyr grynhoi profiad llawer o’r dynion a gymerodd ran yn yr arolwg pan ddywedodd ‘Hoffwn fod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar fy mab. Nid yw’r ffaith fy mod i’n methu â’i fwydo fy hun yn golygu nad oes gennyf ddiddordeb.’

Gwnaeth yr ymchwilwyr ganfod bod dynion eisiau i fwy o wybodaeth am fwydo ar y fron gael ei hanelu atynt ynghyd â syniadau ynghylch sut y gallent gefnogi eu partneriaid yn ymarferol a dysgu mwy am fecanweithiau cymorth iddynt hwy eu hunain.

Meddai Dr Brown sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer yr MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Plant 

‘Rydym yn gwybod bod menywod sy’n teimlo bod eu partner yn cefnogi ac yn annog bwydo ar y fron yn fwy tebygol o barhau i fwydo ar y fron. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod dynion am wneud hyn sy’n newyddion gwych ond maent hefyd yn dangos nad ydynt yn teimlo’n barod i wneud hyn neu eu bod yn ansicr o ran sut y gallant helpu. Mae’n bosib eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cau allan o’r berthynas fwydo a’u bod am wybod sut y gallant gymryd rhan fwy yn y broses o ofalu am eu plentyn neu eu bod yn teimlo’n drist ac yn ansicr ynghylch beth y dylent ei wneud os yw eu partner yn cael anawsterau wrth fwydo ar y fron. Mae angen i ni sicrhau bod gan dadau lawer o wybodaeth am y ffyrdd ymarferol ac emosiynol y gallant gefnogi eu partner fel y gallant deimlo’n hyderus ac yn rhan o bopeth ar yr adeg hon. Mae cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron yn flaenoriaeth strategol a gallai rhoi mwy o amser i dadau fod yn un ffordd y gallem gefnogi mamau newydd wrth fwydo ar y fron.’

Ychwanegodd Dr Davies: ‘Mae ymchwil yn dangos yn fwyfwy ba mor bwysig yw tadau o ran datblygiad eu babi. Mae’n hollbwysig bod ganddynt fynediad at y cymorth y mae ei angen arnynt, i hyrwyddo bwydo ar y fron a hefyd er eu lles nhw a’u perthynas â’u babi a’u rôl fel tad. Mae ein canlyniadau’n awgrymu bod tadau am gael gwybodaeth benodol a hygyrch ynghylch manteision bwydo ar y fron, strategaethau i annog a chefnogi eu partner yn ogystal â chefnogaeth iddynt hwy eu hunain yn ystod y cyfnod hwn. Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio tadau yn ogystal â mamau at y cymorth a’r wybodaeth a chydnabod eu pwysigrwydd wrth hyrwyddo a galluogi bwydo ar y fron.’

Darllenwch yr astudiaeth lawn yma:  http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/mcn.12129/abstract