Arbrawf seicoleg yn darganfod bod pobl grefyddol yn gweld rhithiau'n amlach mewn amgylchiadau crefyddol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae seicolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod bod rhoi pobl รข chredoau crefyddol cryf mewn amgylchiadau crefyddol yn cynyddu'r posibilrwydd o weld rhithiau crefyddol.

Cyhoeddir yr astudiaeth, a arweiniwyd gan Yr Athro Phil Reed o'r Adran Seicoleg, yn y cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid, Psychiatry Research, a defnyddiodd weithdrefn arbrofi unigryw i archwilio natur gweld rhithiau ymhlith pobl nad ydynt yn dangos unrhyw arwydd o salwch meddwl.

Mesurwyd cred grefyddol 100 o bobl, yna rhoddwyd tasg gyfrifiadurol iddynt lle'r oedd rhaid iddynt adnabod presenoldeb geiriau ar sgrîn.  Mesurodd yr astudiaeth y nifer o droeon y dywedodd pobl eu bod wedi gweld geiriau nad oeddent yno mewn gwirionedd, ac aseswyd hefyd y mathau o eiriau gwnaethant honni iddynt eu gweld.

Cafodd yr arbrawf bod pobl â chredoau crefyddol cryf yn gweld mwy o eiriau crefyddol na'r rhai heb gredoau felly pan oeddent mewn amgylchiadau a gynlluniwyd i achosi meddyliau crefyddol.

O'r cyfranogwyr mwy crefyddol, dywedodd 93% eu bod wedi gweld rhithiau crefyddol pan oeddent mewn amgylchiadau crefyddol, ond 50% yn unig ddywedodd hynny mewn amgylchiadau anghrefyddol.

O ran natur y geiriau a adroddwyd yn anghywir, roedd llai na 10% o natur grefyddol mewn amgylchiadau anghrefyddol, ond roedd bron 50% o'r geiriau o natur grefyddol pan fo'r cyfranogwyr mewn amgylchiadau crefyddol.

Meddai'r Athro Phil  Reed, "Nid oedd gan y cyfranogwyr salwch meddwl ac nid oeddent yn gweld rhithiau yn amlach na phobl eraill yn gyffredinol, ond pan oeddent mewn amgylchiadau crefyddol, gwnaethant honni eu bod yn gweld mwy o eiriau crefyddol nad oedd yno mewn gwirionedd."

Mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod achosion sy'n arwyddocaol glinigol o weld rhithiau yn fwy cyffredin ymhlith pobl sgitsoffrenig, gall ddigwydd ymhlith pobl sy'n gaeth i gyffuriau, ac mewn rhai achosion o iselder.  Fodd bynnag, mae gweld rhithiau ysgafn (gweld rhywbeth pan nad yw yno mewn gwirionedd) yn brofiadau eithaf cyffredin ymhlith y boblogaeth, gyda hyd at 70% o bobl yn cael profiad tebyg.  Mae'r achosion ysgafn hyn yn bennaf yn ymwneud â chlywed synau, ac maent yn eithaf cyffredin fel 'dirgryniadau ffug' ymhlith pobl sy'n defnyddio'u ffôn symudol yn aml iawn.

Meddai'r Athro Reed, "Cawsom fod mwy na 60% o bobl yn ein sampl wedi profi rhyw ganfyddiadau ffug, neu weld rhithiau ysgafn, felly mae'n rhywbeth eithaf arferol.

"Fodd bynnag, i rai pobl, gall y canfyddiadau ffug hyn fod yn annifyr iawn – dyna pryd mae'n broblem, yn enwedig pan fo gan gynnwys y rhithiau ystyr arbennig penodol i'r unigolyn."

Mae ymchwil blaenorol wedi dangos y gall gweld rhithiau ddigwydd mewn amgylchoedd sy'n annisgwyl brysur neu swnllyd, ac mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y gellir cysylltu gwyliau crefyddol, megis y Pasg neu'r Nadolig, â chynnydd yn y nifer o achosion seicotig ymhlith pobl 'gorgrefyddol'.

Ychwanegodd yr Athro Reed, "Er ein bod yn gwybod rhai pethau am pryd bydd y ffenomena hyn yn digwydd, nid ydym yn gwybod llawer am pam maent yn digwydd mewn ffordd benodol, a dyma un o'r astudiaethau cyntaf i geisio archwilio achosion cynnwys y canfyddiadau ffug hyn."

Cyhoeddir y papur, gan Yr Athro Phil Reed a Natasha Clarke o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe, yn y cyfnodolyn Psychiatry Research, a gellir ei weld yn http://dx.doi.org/10.1016/j.psychres.2014.01.006.