Arbenigwr rhyngwladol ar ganol y llwyfan yn narllediadau’r BBC i nodi canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Fe fydd yr Athro John Goodby o Brifysgol Abertawe yn ymddangos ar nifer o ddarlleniadau teledu a Radio’r BBC, fel rhan o dymor o ddarllediadau i nodi canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas - un o fawrion llenyddiaeth mwya’r byd.

Mae’r Athro Goodby, sydd wedi’i leoli yn Adran Saesneg Iaith a Llenyddiaeth o fewn  Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn arbenigwr rhyngwladol ar Dylan Thomas, ac yn Gyfarwyddwr ar Brosiect Ymchwil Dylan Thomas o fewn Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW).

Prof Goodby Dylan ThomasBydd yr Athro Goodby yn ymddangos ar raglen BBC Wales, Welsh Greats: Dylan Thomas, a ddarlledir am 10.35pm ddydd Iau, 24 Ebrill. Yr actor Matthew Rhys fydd yn adrodd y stori o fywyd Dylan Thomas, o’i berthynas gyda Caitlin, i’w ddyddiau olaf yn Efrog Newydd.

Am 9.00am ddydd Sul, 27 Ebrill, bydd yr Athro Goodby yn ymddangos ar y rhaglen materion crefyddol BBC Radio Wales, All Things Considered, pan fydd yn ymuno â’r cyflwynydd  Roy Jenkins i drafod barddoniaeth grefyddol Dylan Thomas, gyda'r Parchedig Dr Leslie Griffiths, yr Arglwydd Griffiths o Borth Tywyn, Gweinidog Methodistiaid ac Arolygydd Capel Wesley yn Llundain.

Ddydd Sul, 4 Mai, bydd yr Athro Goodby yn ymddangos ar raglen Jamie Owen ar BBC Radio Wales am 12pm.

Yna, nos Sul, 4 Mai, bydd yr Athro Goodby yn cyflwyno The Essay ar BBC Radio 3. Darlledir y rhaglen o safle Castell Talacharn o 5.45pm tan 6.30pm, fel rhan o ŵyl radio BBC Laugharne Live dros benwythnos 2 - 5 Mai.