Ymchwilwyr yn gofyn am help myfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Caiff myfyrwyr yn Ffeiriau'r Glas prifysgolion Cymru eu holi am eu hymddygiad rhywiol, eu hiechyd rhywiol, a'u hagweddau tuag at waith rhyw mewn arolwg arlein newydd, yn rhan o brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.

Student sex work survey logo

Gofynnir i fyfyrwyr gymryd rhan yn yr Arolwg Rwy'n caru Y Rhyw Diogel, fydd yn gofyn cwestiynau am eu hiechyd rhywiol, eu profiadau rhywiol, eu ffordd o fyw, a'u defnydd o wasanaethau cymorth, yn ogystal â'u hagwedd tuag at adloniant oedolion a gwaith rhyw, a'u profiad ohonynt.

Caiff y data a gesglir eu defnyddio'n rhan o'r prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw. Bydd y prosiect, sydd hefyd yn darparu gwasanaeth gwybodaeth iechyd rhywiol a chyngor diogelwch personol arlein, yn defnyddio canlyniadau'r arolwg i gael darlun cywir o agweddau myfyrwyr tuag at, a barn myfyrwyr am, weithwyr rhyw ac adloniant oedolion.

Bydd canlyniadau'r arolwg ar gael ar wefan y prosiect, ond ni enwir myfyrwyr, er y gellir defnyddio eu geiriau. Hefyd, yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data, cedwir y data yn ddiogel, cedwir yr holl wybodaeth bersonol yn gyfrinachol, a gall y myfyrwyr ofyn am dynnu eu data o'r wybodaeth, ar unrhyw adeg, heb orfod rhoi rheswm.

Dywedodd Dr Tracey Sagar, y prif ymchwilydd, "Mae'n hynod bwysig ein bod yn gallu deall agweddau myfyrwyr tuag at faterion yn ymwneud â rhyw, iechyd rhywiol, a gwaith rhyw. Bydd eu barn yn goleuo ein hymchwil, ac yn ein helpu i ddatblygu ein hadnodd gwybodaeth iechyd rhywiol arlein."

Mae gan y tîm gyfrifon Twitter a Facebook hefyd os yw pobl eisiau cael rhagor o wybodaeth trwy gyfryngau cymdeithasol, ond mae'r tîm yn dweud na ddylid rhoi gwybodaeth bersonol ar y fforymau hyn.

Am ragor o wybodaeth, cewch ein dilyn ar Twitter: @TSSWP neu ymuno â'n grŵp Facebook ar facebook.com/thestudentsexworkproject