Ymchwilwyr Abertawe i arddangos yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n arddangos eu gwaith o safon fyd-eang yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham y Times 2013, a fydd yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth, Mehefin 4 tan ddydd Sadwrn, Mehefin 9.

Chelt Sci Fest 2013‌Mae'r Brifysgol yn un o Brif Gefnogwyr gwŷl wyddoniaeth flaenllaw'r DU ac mae trefnwyr yr ŵyl wedi dewis tri o feysydd ymchwil mwyaf arloesol a chyffrous y Brifysgol i ymddangos yn y rhaglen ddigwyddiadau, sy'n addo bod mor amrywiol ag erioed - yn archwilio popeth o DNA a meddyginiaeth newydd, i gomedau a'r hen baned o de diymhongar.

Bydd Mike Charlton, Athro mewn Ffiseg Arbrofol yn yr Adran Ffiseg, y Coleg Gwyddoniaeth, yn rhoi cyflwyniad i ffiseg ronynnol, gyda Dr Tom Whyntie o CERN, Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewrop; bydd Dr Richard Johnston a Dr Ian Mabbett o'r Ganolfan Ymchwil Defnyddiau, y Coleg Peirianneg, yn arwain pedwar digwyddiad Archwiliad Safle Drosedd, gan ddefnyddio microsgopeg, sbectrosgopeg, dadansoddiadau olion bysedd ac argraffu 3D o'r radd flaenaf; a bydd Rory Wilson, Athro mewn Bioleg Ddyfrol, a Phennaeth Biowyddoniaeth yn y Coleg Gwyddoniaeth, yn siarad am ei ymchwil i ddeall mwy am anifeiliaid gwyllt drwy gyfrwng tagiau Dyddiaduron Anifeiliaid arloesol y mae wedi'u datblygu.

Prof Peter HiggsBydd cyfle hefyd i'r sawl sy'n mynychu'r Ŵyl glywed am y boson Higgs gan y dyn a gyflwynodd y ddamcaniaeth honno - y ffisegydd yr Athro Peter Higgs, Cymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Abertawe  – wrth iddo siarad â Chyfarwyddwr Gwadd yr Ŵyl Dara Ó Briain am ei fywyd a'i waith, ac o ble y daeth yr ysbrydoliaeth a sut y mae'n teimlo am ddarganfyddiad diweddar boson Higgsaidd yn CERN.

Meddai'r Athro Noel Thompson, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe (Ymchwil): "Fel Prif Gefnogwr o'r Ŵyl eto eleni, rydym yn gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth am yr ymchwil o safon fyd-eang a wneir yn y Brifysgol yng ngŵyl gwyddoniaeth fwyaf a mwyaf breintiedig y byd.

“Mae cyfathrebu a lledaenu effaith a gwerth yr ymchwil flaenllaw yr ydym yn ei gwneud yma yn Abertawe, mewn cydweithrediad â phartneriaid yn fyd-eang, yn hanfodol. Mae cymryd rhan yn yr Ŵyl eto eleni, yn amlygu'r meysydd Ffiseg, Peirianneg, a Biowyddoniaeth, yn darparu llwyfan delfrydol i ni ymgysylltu â'r cyhoedd wrth wneud hyn.

"Rydym yn falch iawn o'n hymchwilwyr ymroddedig, arloesol sy'n cymryd rhan eleni ac yn edrych ymlaen at yr hyn sy'n addo bod yn flwyddyn gyffrous arall i Brifysgol Abertawe yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham y Times.”

Prof Mike CharltonY ffisegwyr gronynnol Dr Tom Whyntie, 'Ymchwilydd Preswyl' y prosiect CERN@school a ariannir gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a'r Athro Mike Charlton, yr Adran Ffiseg, Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe, sy'n rhan o'r arbrawf ALPHA (http://alpha.web.cern.ch/) yn CERN.

Yn y sgwrs hon, syn addas i ddechreuwyr, bydd Dr Tom Whyntie  (http://tomwhyntie.wordpress.com/) a'r Athro Mike Charlton yn rhoi cyflwyniad cyflym i ffiseg ronynnol, gan ymdrin â gwerth 100 mlynedd o wyddoniaeth mewn un awr yn unig, o 4pm tan 5pm, ar ddydd Gwener, Mehefin 7, yn yr Arena.

O electronau a thiwbiau Crookes i ddal gwrthfater, y boson Higgs a'r Gwrthdarwr Hadron Mawr, dewch i ddarganfod beth yr ydych chi - a phopeth arall yn y byd - wedi'i wneud ohono.

 

Dr Richard JohnstonDr Richard Johnston a Dr Ian Mabbett, Canolfan Ymchwil Defnyddiau, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe.

Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 8, bydd pedwar digwyddiad Archwiliad Safle Drosedd y gwerthwyd yr holl docynnau amdanynt yn cael eu cynnal yn y Babell Eureka, ar gyfer pobl sy'n 11 mlwydd oed ac yn hŷn.

Y senario a gyflwynir yw bod ymchwilydd blaenllaw wedi datblygu defnydd newydd anhygoel sydd â phriodweddau anghredadwy dan amgylchiadau eithafol - gan ddenu llawer o sylw - ond mae wedi'i ganfod wedi'i lofruddio ac mae'r holl ddata a samplau wedi'u dwyn...pwy gyflawnodd y drosedd?

Dr Ian MabbettMae'r tîm archwilio, a arweinir gan Dr Richard Johnston a Dr Ian Mabbett, wedi canfod darnau allweddol o dystiolaeth o'r olygfa a bydd cyfranogwyr yn helpu adnabod y dihiryn gan ddefnyddio microsgopeg, sbectrosgopeg, dadansoddiadau olion bysedd ac argraffu 3D.

 

 

 

 

Prof Rory WilsonRory Wilson, athro mewn Bioleg Ddyfrol, a Phennaeth Biowyddoniaeth, Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe.

Am fwy na 30 o flynyddoedd, bu'r Athro Rory Wilson yn dyfeisio tagiau technoleg uchel arbennig ac yn eu hatodi i anifeiliaid gwyllt mewn ymgais i ddeall rhagor amdanynt.  Gan ddechrau â phengwiniaid a symud ymlaen i armadilod, eirth gweflog a hyd yn oed siarcod, mae ei waith wedi rhoi golwg iddo ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

Bydd sgwrs yr Athro Wilson, a gynhelir o 10am tan 11am, ar ddydd Sul, Mehefin 9, yn y Crwsibl, wedi'i llunio gan enghreifftiau anghredadwy wrth iddo ddatgelu rhai o gyfrinachau’r anifeiliaid y mae wedi'u datgelu.


Mae Gŵyl Gwyddoniaeth Cheltenham y Times yn rhedeg o ddydd Mawrth, Mehefin 4 tan ddydd Sul, Mehefin 9, 2013. Mae'n dod â dros 300 o wyddonwyr, meddylwyr, comediwyr ac awduron gorau’r byd at ei gilydd i ddathlu ac archwilio rhyfeddodau'r byd naturiol, cymhlethdodau'r meddwl dynol, a dirgelwch y gofod. 

Nod yr Ŵyl yw cysylltu, hysbysu ac ysbrydoli aelodau'r cyhoedd a'u hannog i ryngweithio â gwyddoniaeth a materion yn ymwneud â gwyddoniaeth.