Ymchwil peirianneg Abertawe ar ddangos yn Nhŷ'r Cyffredin

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewiswyd tri ymchwilydd peirianneg o Brifysgol Abertawe, sy'n gweithio ar bynciau megis algâu, ynni haul, a deinameg strwythurol, wedi cael eu dewis i roi eu gwaith ar ddangos yn Nhŷ'r Cyffredin i ddathlu'r Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Genedlaethol.

Cymdeithas Gwyddoniaeth Prydain sy'n trefnu'r Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Genedlaethol, ac mae'n disgrifio'r wythnos fel "y dathliad mwyaf ar lawr gwlad o bopeth yn ymwneud â gwyddoniaeth a pheirianneg" yn y DU.

Mae Miguel Aguirre, a ddaw o Barcelona'n wreiddiol, yn gweithio ar brosiect rhyngwladol gyda chydweithwyr yn Sbaen, Ffrainc, Yr Almaen, a Gwlad Belg, gan astudio meddalwedd deinameg gyflym. Fel yr esboniodd:

"Y prif syniad yw adeiladu rhaglen gyfrifiadurol a all efelychu problemau mewn deinameg strwythurol. Dylai allu efelychu gwrthdaro, trawiad, deunydd yn torri, neu ffrwydrad. Mae o ddefnydd yn y diwydiannau gweithgynhyrchu, amddiffyn, cerbydau modur, peirianneg sifil, ynni, ac awyrofod".

Mae Michael Gerardo, a ddaw o Bortiwgal yn wreiddiol,yn gweithio ar brosiect consortiwm ymchwil a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, sy'n ystyried dulliau posibl o ddefnyddio microalgâu. Fel yr esboniodd: "Gall microalgâu fod yn ffynhonnell defnyddiau gwerthfawr megis cosmetigau, bwyd, deunydd fferyllol, ac ynni."

Mae Matt Carnie'n gweithio ar brosiect SPECIFIC, a leolir ym Mhort Talbot, ac yn arbenigo mewn deunyddiau ffotofoltäig organig cymysgryw:

"Rwy'n dangos poster sy'n dangos celloedd solar wedi'u sensiteiddio gyda lliwur. Mae llawer o'r gwaith yn ganlyniad cydweithredu rhwng Abertawe, Prifysgol Bangor, ac Imperial College, Llundain. Mae'n gyfle da i frolio am ansawdd yr ymchwil a wneir yn Abertawe."