'Tamaid' o hanes yn cysylltu Abertawe â Cairo

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae darn o wydr dros 3000 blwydd oed, sydd i'w weld yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe, wedi'i adnabod fel rhan o fâs Eifftaidd sydd yn Amgueddfa Cairo ar hyn o bryd.

Mae'r tamaid prin, a oedd yn berchen yn wreiddiol i Pharo Amenhotep II (1498-1387 BC), ar fenthyg o Amgueddfa Abertawe.

Egyptian vase fragment

Mae'r darn o wydr 4cm o hyd yn dangos dau enw'r brenin yn goch ac yn felyn ar gefndir o las llachar. Mae'r enwau wedi'u coroni â disgiau haul coch a phlu melyn.Rhoddwyd y darn o wydr i Amgueddfa Abertawe ym 1959. Mae tystiolaeth amgylchiadol yn awgrymu ei fod wedi dod o fedd y frenhines Tiye (gwraig y brenin Amenhotep III). Rhoddwyd y darn i Amgueddfa Abertawe gan Miss Annie Sprake Jones o Abergwili a dderbyniodd y darn gan ei frawd Harold Jones. Roedd Harold Jones wedi'i gyflogi fel artist ym meddau Cwm y Brenhinoedd yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

Yr Eifftolegydd o'r Almaen, Birgit Schlick-Nolte wnaeth ddarganfod bod y darn yn Abertawe'n rhan o'r fâs yn Amgueddfa Cairo sy'n dod o fedd Amenhotep II. Mae'r fâs gyfan yn mesur oddeutu 40cm mewn uchder ac yn cynnwys amffora gwyn wedi'i haddurno ag addurniadau brown a glas golau.

Meddai Dr Carolyn Graves-Brown, Curadur y Ganolfan Eifftaidd: "Mae gwydr o'r dyddiad hwn yn hynod o brin yn yr Aifft ac fel arfer byddai'n cael ei roi fel rhodd ddiplomyddol rhwng brenhinoedd y rhanbarth. Mae llestri ac arteffactau eraill o deyrnasiad Amenhotep II yn rhan o arae anhygoel o dechnegau soffistigedig o gyfnod arloesol mewn cynhyrchu gwydr. Ni fyddai llestri mawr megis hwnnw yn Amgueddfa Cairo, lle y daeth ein darn ni ohoni, yn cael eu hymgeisio hyd yn oed mewn blynyddoedd diweddarach. Ar y dyddiad hwn roedd cynhyrchu gwydr yn fonopoli brenhinol ac roedd mor werthfawr ag aur ac arian.

"Byddai'r darn o wydr yn Abertawe gydag enw'r brenin arno wedi'i saernïo o flaen llaw a'i osod ar gorff y llestr tra'i fod mewn cyflwr tawdd o hyd. Yn ddiddorol, un o'r enwau ar gyfer gwydr yn yr Hen Aifft oedd 'y garreg sy'n llifo'."

Meddai Gareth el-Tawab, Curadur Amgueddfa Abertawe: "Mae benthyg y darn prin iawn hwn o hen wydr gan yr Amgueddfa i'n cydweithwyr yn y Ganolfan Eifftaidd yn enghraifft ardderchog o gydweithio mewn ymchwil ryngwladol".

Bydd modd i ymwelwyr weld y darn prin hwn o wydr Eifftaidd am eu hunain pan fyddant yn dod i'r Ganolfan sydd ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am tan 4pm, gyda mynediad am ddim i'r cyhoedd. Bydd y Ganolfan ar gau o 22ain Rhagfyr ac yn ailagor ar ddydd Mercher 2il Ionawr 2013.