RDM yn Abertawe yn ennill contract gwerth £6m ar Gampws newydd y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bu’r cwmni gwasanaethau trydanol a mecanyddol RDM yn llwyddiannus wrth dendro am waith ar brosiect Campws y Bae gwerth £450m, sydd wrthi’n cael ei adeiladu ar Ffordd Fabian gan Brifysgol Abertawe a’i phartner datblygu St. Modwen.

Y cwmni, sydd wedi’i leoli yn Abertawe ers 25 mlynedd, fydd y prif is-gontractwr yn darparu gwasanaethau trydanol a mecanyddol yn llety’r myfyrwyr a’r swyddfeydd cymorth ar y safle, gan weithio i’r prif gontractwr VINCI Construction UK.

Mae Cyfarwyddwr y Cwmni, David Kieft, wrth ei fodd gyda’r llwyddiant ac yn dweud y bydd y contract gwerth £6m, sydd i ddylunio ac adeiladu, yn golygu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi i bobl leol.

“Rydym yn gwmni sy’n cyflogi’n holl staff yn uniongyrchol a byddwn yn anelu at gynyddu’n sylweddol ein gweithlu yn y flwyddyn newydd i weithio ar gyfnod cyflawni allweddol y contract. Mae gennym hanes hir o hyfforddi’n cyflogeion i safon uchel iawn ac rydym yn bwriadu recriwtio dau brentis ychwanegol drwy’r fenter Mwy na Brics a Morter yn ogystal â chysylltu â’r prosiect Gweithffyrdd i gyflogi pobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd.”

Mae gan RDM enw da hirsefydlog am ei waith ar brosiectau mawr, gan gynnwys parc hamdden Bluestone, adeiladau dinesig ac ysgolion lleol yn ogystal â bod yn enillydd gwobrau megis cyrraedd y Safon Aur am gyflawni contractau ar gyfleusterau’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar draws Cymru a’r gororau.

“Rydym wedi ennill y contract mecanyddol a thrydanol  hwn ar Gampws y Bae o ganlyniad i waith caled ein tîm yn ystod y broses dendro, gan ddechrau gyda’n presenoldeb yn un o’r digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr yn gynharach eleni” meddai David.

“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu darparu tystiolaeth gref o’n gallu i gyflawni a phrisio’r gwaith yn gystadleuol a llwyddo gyda’n cais. Mae hyn yn fwy na newyddion da i RDM yn unig, mae hefyd yn newyddion da i’r ardal gyfan gan ei bod yn golygu y bydd y budd a ddaw yn sgil y rhan hon o’r buddsoddiad yn aros yn yr ardal, gan gefnogi swyddi lleol a phobl leol.”

Meddai Jerry Williams, Cyfarwyddwr Prosiect i VINCI Construction UK: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi penodi RDM Electrical, yn enwedig gan ei fod yn gwmni sydd wedi’i leoli yn Abertawe a ddaeth aton ni drwy’r digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr. Trwy weithio gyda chwmnïau lleol, rydym yn sicrhau bod y gymuned yn elwa o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi a fydd yn ymestyn y tu hwnt i hyd y prosiect.” 

Mae gwaith dylunio RDM ar y prosiect eisoes wedi dechrau a bydd y contract yn rhedeg hyd at fis Medi 2015, pan fwriedir y bydd y campws yn agor yn llawn i fyfyrwyr o’r Coleg Peirianneg a’r Ysgol Rheoli.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: “Bydd Campws y Bae yn gatalydd ar gyfer adfywio’r rhanbarth cyfan. Crëir oddeutu 4,000 o swyddi'n uniongyrchol yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda rhyw 6,000 o swyddi eraill yn anuniongyrchol yn yr economi ehangach o ganlyniad. Bydd hefyd yn darparu enghraifft i ymchwilwyr Prifysgol sy’n gweithio gyda diwydiant, gan helpu i  atgyfnerthu’r economi wybodaeth yng Nghymru.”

RDM Announcement

Mae RDM ymhlith nifer o gwmnïau a leolir ym Mae Abertawe sydd wedi ennill gwaith ar y datblygiad gyda llawer mwy o gyfleoedd yn yr arfaeth y bydd cwmnïau lleol yn gallu tendro amdanynt.

Mae St. Modwen, prif arbenigwr adfywio’r DU, yn datblygu Campws y Bae ac yn ymgymryd â’r gwaith adeiladu ar y cyd â’i gontractwr VINCI Construction UK a chontractwr fframwaith Prifysgol Abertawe, Leadbitter, un o gwmnïau Bouygues yn y DU. Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Mai 2013, a disgwylir y bydd ar agor yn llawn i fyfyrwyr yn 2015.

Llun: O’r chwith i’r dde yw Jerry Williams – Cyfarwyddwr Prosiect, VINCI Construction UK; Rupert Joseland, Cyfarwyddwr Rhanbarthol De Cymru a De-orllewin Lloegr, St. Modwen; Yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a David Kieft, Cyfarwyddwr Cwmni RDM.