Prifysgol Abertawe yn cynnig cwrs Saesneg am ddim

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda sefydliad gwirfoddol i wella mynediad oedolion Abertawe at gyrsiau Iaith Saesneg.

Gan dargedu rhieni ac oedolion o dramor, mae'r Gwasanaeth yn darparu tiwtoriaid sydd newydd raddio i ddysgu sgiliau cyfathrebu a sgiliau byw sylfaenol i ddinasyddion y DU sydd, efallai, yn methu â chyfathrebu yn Saesneg.

"Yn aml iawn, mae pobl o dramor yn cael anhawster wrth gymdeithasu, ac wrth ymwneud â chymunedau lleol oherwydd y rhwystr iaith," meddai Shehla Khan, rheolwr y Tîm Cynorthwyo Ieuenctid Ethnig.

"Profiad y Tîm yw bod rhai mewnfudwyr o'r genhedlaeth gyntaf yn gallu siarad Bengali yn unig, ond bod eu plant, sydd wedi'u geni yma ac sydd wedi mynd trwy'r system addysg yma, yn gallu siarad Saesneg yn unig. Mae'n drist pan na fydd rhieni'n gallu cyfathrebu â'u plant eu hunain.

"Yn ffodus, mae Prifysgol Abertawe yn darparu athrawon cymwys, sy'n galluogi dynion a menywod i ymgynefino'n well yn y gymuned, i siarad ag aelodau iau eu teuluoedd, ac i ddod yn fwy hyderus."

Dywedodd Kevin Child, Pennaeth Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe:  

"Mae cydweithio â'r Tîm wedi bod yn gymhelliad i ni i gyd ar y prosiect hwn, ac mae ein tîm o hyfforddwyr newydd yn amlwg wedi cyflwyno rhaglen neilltuol i'r sefydliad. Nid yn unig y mae hyn wedi bod yn gyfle i ddarparu gwasanaeth mawr ei angen i'r gymuned Du a Lleiafrifoedd Ethnig leol, ac yn gyfle datblygu ôl-radd gwych i raddedigion CELTA Abertawe; mae hefyd wedi creu cyfleoedd datblygu gyrfa broffesiynol i staff y Gwasanaeth. Mae'r math hwn o wasanaeth cymunedol bob amser yn uchel ar ein hagenda.  Yn ein tyb ni, rydyn ni gymaint yn rhan o gymuned Abertawe ac yr ydym yn adran yn y Brifysgol. Yn ogystal â gweithio gyda'r Tîm hwn eleni, rydym hefyd wedi gweithio gyda Grŵp Cymorth Ymgeiswyr Lloches Bae Abertawe, a chydag OXFAM Cymru, i ddarparu gweithgareddau Iaith Saesneg a Hyfforddi Athrawon. Mae cael y fath adborth cadarnhaol oddi wrth y rhanddeiliaid yn galonogol iawn."

Mae'r Tîm yn cynnal dosbarthiadau i ddynion ac i fenywod unwaith yr wythnos yn ei swyddfa yn Ffordd San Helen. Mae Barry Harper, un o'r tiwtoriaid, yn dweud bod y dosbarthiadau'n grymuso'r myfyrwyr.

"Mae'r myfyrwyr yn dod o ledled y byd; Irac, Tsiena, Hong Cong, Swdan, Eritrea, Bangladesh, Somalia, Syria, Sbaen, De Corea a'r Yemen. Mae'r myfyrwyr i gyd o oedran gwahanol ac o gefndir gwahanol, ac mae pob un yn dod â rhywbeth gwahanol i'r dosbarth.

"Mae'r amrywiaeth yn rhywbeth na chewch unrhyw le arall, o safbwynt addysgu. Mae bwrlwm yma, rydym ni i gyd yn tynnu ymlaen yn dda, ac mae pob myfyriwr yn dychwelyd, wythnos ar ôl wythnos.  Mae'n hyfryd gweld eu hyder a'u gallu'n cynyddu."

Mae'r ddau sefydliad o'r farn eu bod yn integral i ddatblygiad y myfyrwyr. Mae'r Tîm yn darparu'r amgylchedd dysgu diogel a'r offer, mae'r athrawon yn ennill profiad dysgu gwerthfawr, ac mae mentoriaid y Gwasanaeth yn sicrhau bod yr athrawon sydd newydd raddio'n gallu parhau i hogi eu sgiliau, a bod cyfarwyddyd ar gael o ran methodoleg dysgu, adnoddau, a syniadau.

"Fel arfer, mae stigma am fod yn ddysgwr mewn oed, yn arbennig mewn rhai diwylliannau", meddai Shehla, "ond mae croeso i bawb ddod i'r dosbarthiadau dynion a menywod yn fan hyn."

"Ein gobaith yw, gydag amser, y bydd ein myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i gyrsiau Saesneg eraill a gynigir gan asiantaethau eraill. Ein targed yw denu oedolion i'r ystafell ddosbarth. Os gallwn ni godi eu sgiliau Saesneg i lefel addas, gallant symud ymlaen i astudio cyrsiau mwy ffurfiol, megis Saesneg Yn Ail Iaith neu'n Iaith Arall."

Mae'r dosbarth i ddynion yn rhedeg bob dydd Mawrth rhwng 11am a 1pm, ac mae'r dosbarth i fenywod yn cychwyn ddydd Mercher 30 Ionawr rhwng 1pm a 3pm. 

Caiff unrhyw un sydd am ymuno â'r dosbarthiadau, neu sydd eisiau rhagor o wybodaeth, gysylltu â'r Tîm ar 01792 446980 neu alw heibio'r swyddfa yn 12 Ffordd San Helen, Abertawe.