Prifysgol Abertawe yn agor ei drysau i fyfyrwyr ôl-raddedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Erioed wedi breuddwydio am weithio ar Gerbyd Uwchsonig Bloodhound? Beth am roi tag ar forfil neu siarc i dracio a dadansoddi ei ymddygiad? Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ysgoloriaethau a all eich helpu i wireddu'r fath freuddwyd!

Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau ar gynnig, ond mae'r rhan fwyaf ar gael trwy'r rhaglenni Ysgoloriaeth Meistr ac Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ryngwladol.

Mae cyfanswm o ryw 140 o ysgoloriaethau ar gael trwy'r cynlluniau hyn. Mae 100 o Ysgoloriaethau Meistr ar gael, pob un gwerth £2,900; ac mae 39 o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ryngwladol ar gael, pob un gwerth £3,000.

A hithau'n brifysgol sy'n arwain ymchwil rhyngwladol o safon uchel, ac sydd wedi ennill enw da yn un o brifysgolion ymchwil mwyaf uchelgeisiol y DU, mae Prifysgol Abertawe wedi dod yn ddewis naturiol i nifer fawr o ôl-raddedigion talentog.

Dywedodd Jennifer Willoughby, MA Diwylliant yr Aifft Hynafol; "Astudiais y rhaglen MA Diwylliant yr Aifft Hynafol ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl graddio, bûm yn gweithio yng Nghairo am flwyddyn, yn gynorthwyydd i Ysgrifennydd y Cyngor Hynafiaethau Goruchaf. Dwi wedi dychwelyd i Abertawe i ennill fy PhD mewn Eifftoleg, ac i ddod yn Athro Prifysgol. Roedd fy nghyfnod yn Abertawe wedi fy helpu i wneud cysylltiadau pwysig, ac roedd wedi fy rhoi mewn sefyllfa wych i lwyddo ym maes Eifftoleg."

Cydnabuwyd bod y portffolio ysgoloriaethau sydd ar gynnig ym Mhrifysgol Abertawe yn drawiadol. Yn 2012, buddsoddwyd dros £4 miliwn mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig, ac mae'r Brifysgol bellach wedi dechrau hysbysebu nifer fawr o gyfleoedd ysgoloriaeth ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr o'r DU, o'r UE, a myfyrwyr rhyngwladol yn 2013. Cynigir dros 250 o ysgoloriaethau trwy gydol y flwyddyn nesaf am fynediad yn 2013 ar raglenni ymchwil a rhaglenni a addysgir.

Cynhelir y Diwrnod Agored nesaf ar gyfer ôl-raddedigion ar 6 Mawrth.